Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 25 Mai 2022.
Huw, fe'm trawyd yn fawr, yn eich cyfraniad yno, gan bwysigrwydd prydferthwch blerwch. Roeddwn yn ceisio meddwl beth fyddai 'the beauty of untidiness' yn Gymraeg. Rwy'n meddwl bod 'prydferthwch blerwch' yn addas, ac mae bron yn gynghanedd, felly mae hefyd yn ymadrodd hardd yn Gymraeg, ac yn farddonol hefyd.