– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 25 Mai 2022.
Byddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Carolyn Thomas sydd â'r ddadl fer y prynhawn yma, felly os gwnaiff Aelodau—
Os gwnaiff yr Aelodau dawelu, gallaf alw ar Carolyn Thomas i roi'r ddadl fer. Carolyn Thomas.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un o fy amser i Huw, Delyth a Sam Kurtz.
Boed eich bod yn hedfan o gwmpas ar Ddiwrnod Gwenyn y Byd neu os ydych ar fin cwblhau No Mow May, mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn canolbwyntio ar ddathlu a dysgu am fioamrywiaeth, ac ers cael fy ethol y llynedd, mae lefel y ddealltwriaeth yn y Senedd hon wedi creu argraff arnaf. Ond mae gwreiddiau fy niddordeb mewn natur yn mynd yn ôl i fy mhlentyndod; mewn gwirionedd, os nad yw plentyn wedi ffurfio cysylltiad â natur cyn ei fod yn 12 oed, mae'n llai tebygol o wneud hynny pan fydd yn oedolyn. Roeddwn i'n arfer saethu i fyny bryn serth yn fy mhentref, gan feddwl y byddai golygfa anhygoel ar ôl i mi gyrraedd y copa, ond yn awr rwy'n crwydro ar hyd lonydd hyfryd yn araf, gan wledda ar amrywiaeth o fywyd gwyllt yn y gwrychoedd a'r cloddiau sy'n llawn rhywogaethau o fy nghwmpas.
Ar ôl i mi gael fy ngwneud yn hyrwyddwr bioamrywiaeth cyngor sir y Fflint a mynychu cyflwyniadau a gweithdai, dechreuais chwilio am rywogaethau. Deuthum i allu eu gweld ar ymylon ffyrdd; sylwais ar fefus gwyllt, tegeirianau, gwyddfyd, botwm crys, garlleg y berth, glöynnod byw, gwenyn ac ystlumod. Darganfûm wrychoedd soniarus yn llawn o adar y to, brain yn ymladd boncathod, baw dyfrgwn a nadroedd. Sylwais fod byd cyfan allan yno, byd arall yn mynd yn ei flaen y tu allan i'r swigen ddynol yr oeddwn yn byw ynddi. Ac rwy'n falch o ddweud fy mod bellach yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y tegeirian llydanwyrdd.
Mae natur yn hardd, ac yn bwysig, ni allwn oroesi hebddi. Mae ein hamgylchedd naturiol yn dirywio ac felly hefyd y manteision y mae'n eu cynnig. Mae wedi ein gwasanaethu'n dda ac yn awr mae angen i ni ei feithrin a'i helpu i ffynnu. Mae bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol hanfodol ym mhob ecosystem wydn ac mae'n hanfodol i'n lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn anghofio mor aml fod cadwyn fwyd bywyd gwyllt a gafodd ei dysgu i ni pan oeddem yn blant yn dechrau gyda'r lleiaf o blith y pryfed sy'n dibynnu ar ein fflora brodorol.
Rydym bellach mewn argyfwng natur, ac mae ein bywyd gwyllt yn dirywio'n fyd-eang ar gyflymder nas gwelwyd o'r blaen yn hanes y ddynoliaeth. Nid oes gennym ddewis ond gweithredu yn awr i'w achub. Mae un o bob chwe rhywogaeth a asesir yng Nghymru yn unig mewn perygl o ddiflannu. Un o bob chwech—gadewch i hynny suddo i mewn. Rydym yn canolbwyntio ar blannu coed ar gyfer storio carbon, ond eto mae tair i bum gwaith yn fwy o garbon yn cael ei storio yn ein glaswelltiroedd nag yn ein coedwigoedd. Ymylon glaswellt gwledig yw mwy na 50 y cant o'n doldiroedd cyfoethog yn y DU, a chollwyd 97 y cant o ddolydd glaswelltir traddodiadol yr iseldir yng Nghymru a Lloegr rhwng 1930 a 1987. Dyma lle mae angen inni geisio rhoi mesurau diogelu ar waith ar frys.
Efallai mai ymylon ffyrdd a pharciau yw'r unig gyswllt rheolaidd y mae rhai pobl yng Nghymru yn ei gael â natur. Bydd cael mwy o ardaloedd natur wedi'u gadael yn wyllt yn gwella cymeriad lleol, diddordeb gweledol a'n hiechyd a'n lles. Mae newid sut y caiff glaswellt ei dorri, dros amser, yn creu dolydd mwy brodorol sy'n llawn o flodau gwyllt mewn ardaloedd amwynder ac ar hyd ymylon ffyrdd. Bydd creu coridorau bywyd gwyllt drwy ddarnau gwyllt o dir, mannau twf naturiol a chanolbwyntio ar dorri llwybrau troed dymunol lle bo angen yn unig yn gwneud gwahaniaeth. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd drwy gynnal bywyd gwyllt, gwella cysylltedd ecolegol, storio mwy o garbon yn ein priddoedd a meithrin mwy o allu i wrthsefyll newid amgylcheddol, gan adael i'n plant ffurfio cysylltiad â'n bywyd gwyllt ar yr un pryd, er mwyn iddynt hwythau hefyd barhau i'w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gallwn wneud ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder—parciau a mannau gwyrdd eraill—yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Efallai fod glaswellt sy'n cael ei dorri'n fyr yn rheolaidd yn edrych yn daclus i rai, ond nid yw o fawr o fudd i fywyd gwyllt. Rhaid inni gymryd cam yn ôl a newid ein disgwyliadau ynghylch glaswellt ungnwd wedi'i drin a'i chwynnu'n ddiflas. Mae angen inni ganiatáu i'r holl ddolydd posibl gyrraedd eu potensial llawn a gadael i flodau dyfu. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a phartneriaethau natur lleol ledled Cymru, fel y dangosodd No Mow May, prosiect partneriaeth Magnificent Meadows Cymru, a'r canllawiau rheoli lleiniau ymylon ffyrdd, sy'n fframwaith pwysig ar gyfer y gwaith partneriaeth hwn. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i dirfeddianwyr sydd wedi rheoli tir ar gyfer natur, a gobeithio y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn cynnig y cymhellion cywir i annog eraill na allant fforddio gwneud hynny neu i feithrin arbenigedd.
Os ydym am dyfu dyfodol ffrwythlon, un lle y caniateir i'n bioamrywiaeth flodeuo, mae angen gwneud llawer mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i wneud hynny. Fel y dywedant, Weinidog, rydych chi'n medi'r hyn a heuwch. Diolch.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Carolyn—mae'n gyfraniad gwych. Rwyf am ddweud ychydig eiriau, gan fynd ar drywydd y themâu y sonioch chi amdanynt. Gall pob un ohonom chwarae rhan yn hyn. Y bore yma cyn i mi ddod i mewn, roeddwn i'n digwydd bod yn edrych drwy lyfr sydd gennyf ar y cwpwrdd wrth ochr y gwely. Llyfr Chris Packham a Megan McCubbin, Back to Nature: How to love life—and save it. Maent yn gwneud pwynt am y newid sy'n rhaid i bobl ei wneud, y newid meddylfryd i ganiatáu lleoedd blêr mewn gwirionedd—felly, lleiniau ar ymyl ffyrdd, ymylon caeau. Rwyf wedi gwneud No Mow May, fel llawer o bobl. Rwyf wedi bod yn ei wneud ers rhai blynyddoedd bellach. Mae fy rhai bach wedi bod yn fy annog i wneud hynny. Mae'n ddiddorol iawn. Mae tri math o feillion yn dod drwodd yno, o wahanol faint, siâp a lliw bob un. Mae gennym ffacbys gwyllt yn dod drwyddo, ac wrth gwrs, dant y llew a llygad y dydd ac yn y blaen. Mae'n edrych yn brydferth ac mae'n wledd i fywyd gwyllt. Mae'r ymgyrch perthi ac ymylon caeau sy'n digwydd hefyd, am yr hyn y gall ffermwyr ei wneud gydag ymylon caeau, ychydig llai o waith trin, ychydig mwy o flerwch, gyda chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt—fflora a ffawna. A hefyd, yr hyn y gallwn ei wneud gyda chynghorau tref a chynghorau sir ar gymunedau di-blaladdwyr. Ond mae'r cyfan yn galw am newid agwedd—dyna sy'n rhaid inni ei wneud, a dyna'r peth cyffrous am hyn. Mae'n galw am wneud y naid a dweud, 'Mae gennym i gyd ran i'w chwarae'—weithiau mae'n galw am benderfyniadau beiddgar, a glynu wrth hynny wedyn, a gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth. Felly, Carolyn, diolch yn fawr.
Roeddwn i eisiau diolch i Carolyn Thomas am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd. Am ddadl hyfryd a phwysig mae wedi bod. Mae'r pandemig wedi gwneud i gynifer ohonom ni ailystyried pwysigrwydd y natur sydd o'n cwmpas ni yn ein milltir sgwâr. Nid oes rhaid teithio i'r mynyddoedd na llynoedd i weld gogoniant y byd naturiol, mae hefyd ar gael yn ein pentrefi, neu fe all fod os ydyn ni'n gadael iddo dyfu. Mae blodau gwyllt, fel dŷn ni wedi clywed yn yr araith hynod passionate yna gan Carolyn, ymysg y golygfeydd hyfrytaf yr ydym yn gallu'u gweld, ac rwy'n llwyr gefnogol o unrhyw ymgais i gael mwy o flodau gwyllt yn tyfu. Yn olaf, mae'r crisis natur yn un sy'n effeithio arnom ni oll, ond dyma un ffordd y gallem ni chwarae rhan adeiladol mewn adfywio rhywogaethau a sicrhau bod mwy o bobl yn gwerthfawrogi natur yn eu bywydau bob dydd. Diolch yn fawr iawn eto i Carolyn am y ddadl.
Huw, fe'm trawyd yn fawr, yn eich cyfraniad yno, gan bwysigrwydd prydferthwch blerwch. Roeddwn yn ceisio meddwl beth fyddai 'the beauty of untidiness' yn Gymraeg. Rwy'n meddwl bod 'prydferthwch blerwch' yn addas, ac mae bron yn gynghanedd, felly mae hefyd yn ymadrodd hardd yn Gymraeg, ac yn farddonol hefyd.
Diolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am gyflwyno hyn. Fel rhywun a gyflwynodd y datganiad barn ar berthi ac ymylon caeau y mae'r Aelod yn garedig iawn wedi'i gyd-lofnodi hefyd, credaf fod hyn yn bwysig iawn. Yn bendant, mae gan y gymuned amaethyddol ran i'w chwarae yn hyn yn ogystal. Mae'n ymwneud â phlannu'r goeden iawn yn y lle iawn am y rhesymau iawn, ac maent yn gwbl gytûn ar hynny. Ond os caf apelio ar y Dirprwy Weinidog gan ei fod yma: gadewch inni beidio â gwneud diogelwch y cyhoedd yn eilradd i hyn. Tynnaf sylw at enghraifft Milton yn fy etholaeth lle mae lleiniau ymylon ffyrdd yn cael effaith andwyol ar welededd ar ffordd yr A477, gydag etholwyr yn poeni'n fawr am fynediad o'u heiddo i'r brif ffordd, oherwydd mae'r ymylon yn tyfu dros y ffordd ei hun. Ond Carolyn, fe sonioch chi ynglŷn â sut rydych yn arafu i edrych ar yr ymylon ffyrdd ac yn mwynhau'r hyn sydd yno, a chefais fy atgoffa o gerdd W.H. Davies, 'Leisure':
'Beth yw'r bywyd hwn, os nad oes gennym amser, yn ein prysurdeb, i sefyll ac i syllu?'
Rwy'n credu ei bod yn addas iawn inni dreulio ychydig mwy o amser yn syllu a mwynhau'r hyn y mae natur yn ei roi i ni yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn. Roedd hon yn ddadl fer a ffrwythlon gyda llawer o gyfraniadau meddylgar. Diolch am ei chyflwyno, Carolyn, ac am y gwaith y buoch yn ei wneud gyda ni i helpu i lywio dull o weithio gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o geisio lledaenu arferion da.
Roeddech yn tynnu sylw at pa mor frawychus o gyflym y mae natur yn cael ei disbyddu a llawer o'r ffyrdd ymarferol y gallwn i gyd geisio lliniaru hynny. Roeddech hefyd yn tynnu sylw at y gwaith da a wneir gan ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn ogystal â'r prosiectau, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, sy'n cael eu datblygu gan gynghorau tref, cymdeithasau tai, ysgolion, y GIG ac yn y blaen. Nid wyf am ailadrodd y ffigurau na'r manteision y mae'r Aelodau wedi tynnu sylw atynt. Rwy'n cytuno â Carolyn Thomas ynglŷn â'r posibiliadau ar gyfer ein lleiniau ymylon ffyrdd—mae gennym 29,000 o filltiroedd o leiniau ymylon ffyrdd ac mae ganddynt botensial i gynnal llawer iawn o fywyd gwyllt. Ac rwy'n derbyn pwynt Sam Kurtz am yr enghraifft yn ei etholaeth o ymyl ffordd yn Milton. Lle mae awdurdodau priffyrdd yn torri lleiniau ymylon ffyrdd, maent yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae hynny'n ei chael ar welededd ac ar ddiogelwch ffyrdd. Ond hyd yn oed y tu hwnt i'r ochr agosaf at y briffordd lle mae'r pethau hyn yn faterion sy'n codi, ceir llawer iawn o dir cyfagos sydd â photensial mawr, ac wrth gwrs, y perthi a'r ymylon caeau yn eich cymuned, nid ar ffermydd yn unig—darnau bach o dir yma ac acw lle y ceir potensial i gynnal bywyd gwyllt.
Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Mae Carolyn wedi gwneud gwaith da yn hyrwyddo casglu toriadau i atal y glaswellt rhag creu llystyfiant marw a mygu planhigion bregus, a chasglu hadau. Yn wir, rydym wedi cyllido nifer o awdurdodau lleol i gael y peirianwaith a fydd yn caniatáu iddynt gasglu'r hadau ac yn y broses, i gynnal blodau o stoc leol. Gall cael blodyn gwyllt ymwthiol ungnwd yng nghefn gwlad lesteirio bioamrywiaeth er ein bwriadau gorau, ac nid dyna rydym am ei gael. Ac mae Huw Irranca-Davies yn iawn: bod â'r dewrder i dderbyn blerwch. Rwy'n ei wneud yn fy lawnt flaen fy hun, ac rwy'n teimlo llygaid beirniadol cymdogion fod fy ngwrych ychydig yn anniben a bod y lawnt yn edrych yn flêr. Ac rwy'n credu mai dyna un o'n rhwystrau, a chredaf mai dyna un o'r darnau o waith y mae Carolyn Thomas wedi'i nodi, yr angen i addysgu pobl. Nid bod yn ddiog y mae'r cyngor wrth beidio â thorri'r glaswellt, mae rheswm dros hynny. Ond fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae angen newid meddylfryd, cael pobl i ddeall nad yw natur yn daclus, ac mewn gwirionedd, fod taclusrwydd yn elyn wrth annog bioamrywiaeth.
Felly, mae prosiect addysg mawr i'w wneud, ac rydym yn ariannu amrywiaeth o brosiectau ledled y wlad. I enwi un, yr un a grybwyllwyd gan Carolyn Thomas—prosiect Bioamrywiaeth a Busnes Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, sydd wedi creu dros 600 metr o leiniau ymylon blodau gwyllt ac wedi plannu blodau gwyllt ar wyth cylchfan. Rydym yn ariannu llawer mwy o enghreifftiau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Plantlife a'u hymgyrch No Mow May, rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i'w ymgorffori, a deall y rhwystrau a gwneud pethau ymarferol i'w hannog. Ar hyn o bryd, mae fy nghyd-Aelod, Julie James, yn cynnal archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, gan weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid, i geisio deall rhwystrau ymarferol a sut i'w goresgyn.
Ond credaf mai'r pwynt allweddol inni ei bwysleisio—rydym wedi sôn yn y Siambr y prynhawn yma eisoes am yr argyfwng hinsawdd, ond bob tro y soniwch am yr argyfwng hinsawdd, rhaid inni hefyd sôn am yr argyfwng natur sy'n digwydd ar yr un pryd. Ac mae tensiynau rhwng y ddau, ac mae angen rheoli'r tensiynau hynny a gweithio drwyddynt. Cefais ymweliad rhagorol gyda'r RSPB yr wythnos diwethaf â gwarchodfa natur Conwy ar ochr yr A55, a gwelais yno, mewn lleoliad eithaf anaddawol mewn gwirionedd, sut y maent wedi creu hafan o fioamrywiaeth, ond sut y ceir tensiynau rhwng ein dau nod i liniaru'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Po fwyaf y siaradwn amdano, y mwyaf y byddwn yn prif ffrydio ac yn normaleiddio blerwch. Ac am unwaith, rwy'n credu y gallwn i gyd groesawu'r cyfle i fod braidd yn anniben. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.