Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un o fy amser i Huw, Delyth a Sam Kurtz.
Boed eich bod yn hedfan o gwmpas ar Ddiwrnod Gwenyn y Byd neu os ydych ar fin cwblhau No Mow May, mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn canolbwyntio ar ddathlu a dysgu am fioamrywiaeth, ac ers cael fy ethol y llynedd, mae lefel y ddealltwriaeth yn y Senedd hon wedi creu argraff arnaf. Ond mae gwreiddiau fy niddordeb mewn natur yn mynd yn ôl i fy mhlentyndod; mewn gwirionedd, os nad yw plentyn wedi ffurfio cysylltiad â natur cyn ei fod yn 12 oed, mae'n llai tebygol o wneud hynny pan fydd yn oedolyn. Roeddwn i'n arfer saethu i fyny bryn serth yn fy mhentref, gan feddwl y byddai golygfa anhygoel ar ôl i mi gyrraedd y copa, ond yn awr rwy'n crwydro ar hyd lonydd hyfryd yn araf, gan wledda ar amrywiaeth o fywyd gwyllt yn y gwrychoedd a'r cloddiau sy'n llawn rhywogaethau o fy nghwmpas.
Ar ôl i mi gael fy ngwneud yn hyrwyddwr bioamrywiaeth cyngor sir y Fflint a mynychu cyflwyniadau a gweithdai, dechreuais chwilio am rywogaethau. Deuthum i allu eu gweld ar ymylon ffyrdd; sylwais ar fefus gwyllt, tegeirianau, gwyddfyd, botwm crys, garlleg y berth, glöynnod byw, gwenyn ac ystlumod. Darganfûm wrychoedd soniarus yn llawn o adar y to, brain yn ymladd boncathod, baw dyfrgwn a nadroedd. Sylwais fod byd cyfan allan yno, byd arall yn mynd yn ei flaen y tu allan i'r swigen ddynol yr oeddwn yn byw ynddi. Ac rwy'n falch o ddweud fy mod bellach yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y tegeirian llydanwyrdd.
Mae natur yn hardd, ac yn bwysig, ni allwn oroesi hebddi. Mae ein hamgylchedd naturiol yn dirywio ac felly hefyd y manteision y mae'n eu cynnig. Mae wedi ein gwasanaethu'n dda ac yn awr mae angen i ni ei feithrin a'i helpu i ffynnu. Mae bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol hanfodol ym mhob ecosystem wydn ac mae'n hanfodol i'n lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn anghofio mor aml fod cadwyn fwyd bywyd gwyllt a gafodd ei dysgu i ni pan oeddem yn blant yn dechrau gyda'r lleiaf o blith y pryfed sy'n dibynnu ar ein fflora brodorol.
Rydym bellach mewn argyfwng natur, ac mae ein bywyd gwyllt yn dirywio'n fyd-eang ar gyflymder nas gwelwyd o'r blaen yn hanes y ddynoliaeth. Nid oes gennym ddewis ond gweithredu yn awr i'w achub. Mae un o bob chwe rhywogaeth a asesir yng Nghymru yn unig mewn perygl o ddiflannu. Un o bob chwech—gadewch i hynny suddo i mewn. Rydym yn canolbwyntio ar blannu coed ar gyfer storio carbon, ond eto mae tair i bum gwaith yn fwy o garbon yn cael ei storio yn ein glaswelltiroedd nag yn ein coedwigoedd. Ymylon glaswellt gwledig yw mwy na 50 y cant o'n doldiroedd cyfoethog yn y DU, a chollwyd 97 y cant o ddolydd glaswelltir traddodiadol yr iseldir yng Nghymru a Lloegr rhwng 1930 a 1987. Dyma lle mae angen inni geisio rhoi mesurau diogelu ar waith ar frys.
Efallai mai ymylon ffyrdd a pharciau yw'r unig gyswllt rheolaidd y mae rhai pobl yng Nghymru yn ei gael â natur. Bydd cael mwy o ardaloedd natur wedi'u gadael yn wyllt yn gwella cymeriad lleol, diddordeb gweledol a'n hiechyd a'n lles. Mae newid sut y caiff glaswellt ei dorri, dros amser, yn creu dolydd mwy brodorol sy'n llawn o flodau gwyllt mewn ardaloedd amwynder ac ar hyd ymylon ffyrdd. Bydd creu coridorau bywyd gwyllt drwy ddarnau gwyllt o dir, mannau twf naturiol a chanolbwyntio ar dorri llwybrau troed dymunol lle bo angen yn unig yn gwneud gwahaniaeth. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd drwy gynnal bywyd gwyllt, gwella cysylltedd ecolegol, storio mwy o garbon yn ein priddoedd a meithrin mwy o allu i wrthsefyll newid amgylcheddol, gan adael i'n plant ffurfio cysylltiad â'n bywyd gwyllt ar yr un pryd, er mwyn iddynt hwythau hefyd barhau i'w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gallwn wneud ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder—parciau a mannau gwyrdd eraill—yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Efallai fod glaswellt sy'n cael ei dorri'n fyr yn rheolaidd yn edrych yn daclus i rai, ond nid yw o fawr o fudd i fywyd gwyllt. Rhaid inni gymryd cam yn ôl a newid ein disgwyliadau ynghylch glaswellt ungnwd wedi'i drin a'i chwynnu'n ddiflas. Mae angen inni ganiatáu i'r holl ddolydd posibl gyrraedd eu potensial llawn a gadael i flodau dyfu. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a phartneriaethau natur lleol ledled Cymru, fel y dangosodd No Mow May, prosiect partneriaeth Magnificent Meadows Cymru, a'r canllawiau rheoli lleiniau ymylon ffyrdd, sy'n fframwaith pwysig ar gyfer y gwaith partneriaeth hwn. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i dirfeddianwyr sydd wedi rheoli tir ar gyfer natur, a gobeithio y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn cynnig y cymhellion cywir i annog eraill na allant fforddio gwneud hynny neu i feithrin arbenigedd.
Os ydym am dyfu dyfodol ffrwythlon, un lle y caniateir i'n bioamrywiaeth flodeuo, mae angen gwneud llawer mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i wneud hynny. Fel y dywedant, Weinidog, rydych chi'n medi'r hyn a heuwch. Diolch.