1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf cymhwyso ar gyfer cynllun ad-dalu'r dreth gyngor? OQ58082
Gwnaf. Fel rhan o’n pecyn cymorth costau byw gwerth £380 miliwn, rydym wedi darparu £152 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer gwneud taliadau o £150 i aelwydydd sy’n byw mewn eiddo ym mandiau A i D ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Diolch am eich ymateb. Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynllun ad-daliad y dreth gyngor i aelwydydd sy’n byw mewn cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Er enghraifft, mae dau breswylydd oedrannus wedi egluro eu bod yn byw mewn hen eiddo cerrig sy’n oer ac yn ddrafftiog, ond ni allant fforddio talu am welliannau effeithlonrwydd ynni ar hyn o bryd. Nid yw'r un ohonynt yn derbyn credyd pensiwn ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer ad-daliad y dreth cyngor am fod eu heiddo uwchlaw trothwy band D. Serch hynny, yn achos un preswylydd yn benodol, maent yn talu £300 mewn treth gyngor, sy’n fwy na hanner eu hincwm misol.
Fel y dywedais o'r blaen, ceir llawer o bobl, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, sy’n gyfoethog o ran asedau ac yn dlawd o ran arian parod, neu’n byw mewn cartrefi teuluol nad ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynlluniau presennol. Weinidog, sut y byddech yn ymateb i’r trigolion hyn sydd wedi gofyn a ellir ehangu ad-daliad y dreth gyngor er mwyn i fwy o bobl gael y cymorth y maent ei angen? A sut y mae'r weinyddiaeth gyllid yn gweithio gyda'r adran newid hinsawdd yn benodol i helpu pobl ar incwm is ac sy'n byw mewn cartrefi hŷn, aneffeithlon i wella eu heffeithlonrwydd ynni? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac wrth gwrs, mae ein cynllun yma yng Nghymru eisoes yn fwy hael na’r hyn sy’n cael ei gynnig dros y ffin yn Lloegr, gan fod gennym gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd ar gael i bobl mewn eiddo ym mandiau A i I. Felly, mae hynny'n amlwg yn mynd ymhellach o lawer na'r cymorth sydd ar gael mewn mannau eraill. Ond rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd, pobl nad oes ganddynt hawl awtomatig i'r cymorth hwnnw, a dyna pam ein bod wedi cynnwys cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol fel y gallant gefnogi aelwydydd unigol y gwyddant y byddant yn ei chael hi'n anodd ond nad ydynt yn gymwys fel arall. Bydd pob awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad ynghylch eu cynllun dewisol er mwyn dangos pa aelwydydd fydd yn cael eu hystyried yn yr ardal leol honno. Felly, gwn y byddai sir Fynwy yn bwriadu gwneud hynny’n fuan. Mae dros 20,000 eiddo yn sir Fynwy eisoes wedi’u nodi fel rhai sy'n gymwys ar gyfer y cymorth, ac o’r rheini, mae 16,900 eisoes wedi derbyn eu taliad. Felly, mae cryn dipyn o gymorth ar gael i’ch etholwyr, ond byddwn yn sicr yn argymell bod yr etholwyr hynny'n archwilio gyda’r cyngor yn gyntaf i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun dewisol.