1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyllid codi'r gwastad? OQ58098
Gwnaf. Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu ein setliad datganoli yn fwriadol, ac yn gweithredu'r gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin o Lundain. Roedd y cynnig munud olaf o rôl gynghorol yn y gronfa ffyniant gyffredin yn gwbl annigonol ac yn arwydd o ddull di-glem Llywodraeth y DU o ymdrin â chyllid ar ôl Brexit.
Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae'r ateb yn adlewyrchiad o'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn un siomedig, onid yw hi? Oherwydd, nôl yn 2019, roedd Cymru yn fuddiolwr net o bres o'r Undeb Ewropeaidd, yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn, a hynny'n gyrru cynlluniau economaidd ac yn denu hefyd, wrth gwrs, arian cyfatebol o ffynonellau preifat a chyhoeddus. Ond nawr, fel rŷch chi wedi awgrymu yn eich ateb, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hallgáu o'r broses yma. Rŷn ni'n symud o ddynesiad holistig, strategol i fodel cystadleuol sy'n gosod awdurdodau lleol yn erbyn ei gilydd yn lle dod â nhw at ei gilydd, ac, wrth gwrs, sydd yn dyrchafu rôl Aelodau Seneddol i ryw fath o ddyfarnwyr sydd bron iawn â rhyw fath o feto ar y cynlluniau yma. Mae'n mynd â ni i'r cyfeiriad anghywir. Yn hytrach na bod Cymru yn dod at ei gilydd i dynnu i’r un cyfeiriad gyda buddsoddiadau sy'n 'complement-io' ei gilydd, nawr rŷn ni'n gweld pawb yn cael eu hannog i fynd eu ffordd eu hunain, a hynny yn aml iawn ar draul eraill. Mae hefyd yn ymdrech fwriadol i dorri allan y Senedd yma o'r broses ac i danseilio'r mandad yna sydd gennym ni a'r trosolwg democrataidd yna sydd gennym ni fan hyn. Felly, yng ngoleuni hynny i gyd, ydych chi'n cytuno â galwadau Plaid Cymru y dylid datganoli pob cyfrifoldeb dros ffynonellau cyllido ôl-Brexit i Gymru?
Diolch yn fawr iawn am godi hynny, ac am y cynnig y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno ar gyfer yn nes ymlaen y prynhawn yma, pan gawn archwilio hyn gyda’n gilydd mewn mwy o fanylder. Ond rhannaf y pryder fod hyn, o bosibl, yn gwneud i awdurdodau lleol gystadlu â'i gilydd ar yr union adeg pan ydym yn ceisio annog cydweithredu a chydweithio. Ond mae'n ymwneud â mwy nag awdurdodau lleol wrth gwrs; yn y gorffennol, byddai addysg uwch, addysg bellach, y sector preifat a'r trydydd sector oll wedi elwa’n sylweddol o gyllid yr UE. Ond yn awr, rwy'n credu bod gwneud awdurdodau lleol yn weinyddwyr yn y gronfa ffyniant gyffredin yn creu heriau posibl gyda'r berthynas honno hefyd. Felly, rwy'n credu—. Cyfeiriais ato fel ‘di-glem’ yn fy ateb gwreiddiol; credaf fod honno'n ffordd gwrtais o'i roi.
Credaf fod y pwynt am anwybyddu'r Senedd yn wirioneddol bwysig hefyd, gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn datganoli’n fwy lleol, ond sothach llwyr yw hynny, gan nad oes unrhyw gyllid na phwerau gwneud penderfyniadau yn cael eu datganoli. Oherwydd mae'n rhaid i awdurdodau lleol Cymru baratoi cynlluniau, ond yna cânt eu hasesu gan swyddogion Whitehall, a gwneir penderfyniadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU yn Llundain, felly nid yw'r pethau hyn yn cael eu datganoli i'r lefel fwy lleol y mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio ati.
Ac yna, wrth gwrs, ceir pwynt pwysig ynglŷn â cholli cyllid. Byddwn yn colli £1.1 biliwn mewn cyllid strwythurol a gwledig heb gael unrhyw gyllid yn ei le rhwng 2021 a 2025, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys colli £243 miliwn mewn cyllid gwledig. Gallaf glywed yr Aelod, sy’n ffermwr ei hun, yn siarad am hyn wrth inni drafod y cwestiwn hwn. Felly, yn amlwg, mae Cymru'n sicr yn waeth ei byd ac mae’r addewidion a wnaed i ni wedi’u torri.
Wrth gwrs, mae cyllid ffyniant bro yn hanfodol i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol yma yng Nghymru, gan fod cymaint y gellir ei wneud i helpu i adfywio'r stryd fawr, canol ein trefi, mynd i'r afael â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall yr arian hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau hynny. Ac wrth gwrs, un agwedd yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei chefnogi, ac y mae llywodraeth leol yn ei chefnogi, yw bod y cyllid hwnnw yn nwylo'r awdurdodau lleol hynny, gan mai datganoli yw hyn, a dyma lle nad yw'n dod i ben yma ym Mae Caerdydd, ac er eich pryderon, Weinidog, mae awdurdodau lleol rwy'n gyfarwydd â hwy ac yn gweithio gyda hwy wedi cyffroi ynglŷn â'r cyfle i gymryd rhan uniongyrchol yn y broses, yn hytrach na chael gorchmynion o Fae Caerdydd. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael, a pha drafodaethau parhaus rydych chi'n eu cael, gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ffyniant bro yn llwyddiant?
Byddwn yn synnu’n fawr pe bai awdurdodau lleol yn cyfeirio at ein hymagwedd flaenorol at gyllid rhanbarthol fel 'gorchmynion’ gan Gaerdydd. Byddwn yn synnu’n fawr iawn, gan fod ein hymagwedd bob amser wedi bod yn hynod o gydweithredol. Mae’n ymwneud â cheisio sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn partneriaeth. A gadewch inni gofio bod y gronfa ffyniant bro wedi bod—. Mae'n gwasgaru symiau bach iawn o arian ledled Cymru. Gadewch inni gofio bod y cylch ariannu cyntaf wedi'i lansio ym mis Mawrth 2021, ac ni chafodd ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu tan fis Hydref y flwyddyn honno, ac yn y rownd gyntaf, chwe awdurdod lleol yn unig a gafodd gyllid yng Nghymru. Roedd hynny ar gyfer 10 cais, gwerth £121 miliwn. Roedd ceisiadau aflwyddiannus ledled Cymru yn werth llawer mwy na hynny—£172 miliwn—felly, rwy'n credu y byddai mwy o awdurdodau lleol siomedig na rhai hapus gyda'r cynllun penodol hwn, ac ni welaf unrhyw obaith o gwbl y bydd y swm bach hwn o arian y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn cyfrannu at godi'r gwastad mewn unrhyw fodd yng Nghymru neu unrhyw le arall.
Roedd yn hynod ddiddorol gweld tystiolaeth dros y penwythnos o ddŵr glas yn araith arweinydd y Ceidwadwyr—nid oedd yn gefnfor, na hyd yn oed yn afon, neu nant; roedd yn fwy o gornant, neu efallai ffrwd, diferyn bach iawn—mewn perthynas â chyllid HS2. Ond wrth gwrs, rydym hefyd wedi gweld y cyhoeddiadau ar Crossrail dros y blynyddoedd diwethaf, a llinell Victoria y penwythnos hwn, ac mae'n wych gweld yr holl fuddsoddiad hwnnw'n mynd i'r de-ddwyrain, ond mae hyn yn cael effaith yng Nghymru; rydym wedi cael ein hamddifadu o gyllid ar gyfer codi’r gwastad ar ein rheilffyrdd ers degawdau. Gallaf ddweud o'r diwedd fod gwaith yn mynd rhagddo ar signalau Tondu—15 i 20 mlynedd ar ei hôl hi, gan ei fod wedi ei ddargyfeirio i dde-ddwyrain Lloegr i'w fuddsoddi yno, ond mae'n mynd rhagddo o'r diwedd.
Felly, Weinidog, a oes gennych unrhyw syniad pa fath o ffigur y gallech ei roi i arweinydd y Ceidwadwyr i ddweud, 'Yn ogystal â HS2, dyma faint o arian sydd ei angen arnom i godi'r gwastad ar fuddsoddiad yn y rheilffyrdd yng Nghymru'?
Mae’n braf iawn gweld bod y cen wedi syrthio oddi ar lygaid arweinydd y Ceidwadwyr mewn perthynas â chyllid HS2, ac rwy'n gobeithio bod ganddo ddatguddiadau tebyg ynghylch yr £1.1 biliwn y mae Cymru wedi'i golli—ac mae hyn yn ffaith—o ganlyniad i ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â Brexit. Felly, mae ein dull o gyllido seilwaith rheilffyrdd wedi deillio o'r cyllid annigonol a gawsom yn gyson gan Lywodraeth y DU. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael llai na 2 y cant o’r £102 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wario ar wella rheilffyrdd, er bod gennym 5 y cant o’r boblogaeth, ond yn waeth na hynny, mae gennym 10 y cant o’r rheilffyrdd. Ac nid ydym yn cael cyllid teg mewn perthynas â'r seilwaith rheilffyrdd o gwbl. Er bod 11 y cant o'r rheilffordd, 11 y cant o'r gorsafoedd ac 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd yng Nghymru a Lloegr ar lwybr Network Rail yng Nghymru, oddeutu 2 y cant yn unig o’r arian hwnnw, ar gyfartaledd, sydd wedi’i wario ar welliannau i'r rhwydwaith ers 2011. Felly, mae hynny'n amlwg yn hynod siomedig.
Beth y gallem ei gael yn lle hynny? Gallem fod yn datgarboneiddio ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru; gallem fod yn mynd i'r afael â'r gwahaniaethau a grëwyd yn sgil rhoi'r gorau i gynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe; gallem fod yn rhoi argymhellion comisiwn Burns ar waith yn gyflymach yn ne-ddwyrain Cymru; gallem fod yn cyflwyno metro gogledd Cymru yn gyflymach, gan gynnwys cysylltiadau gwell, rhaid imi ddweud, â HS2; a gallem fod yn buddsoddi mewn cynlluniau lleol pwysig megis gwasanaethau amlach ar reilffordd Maesteg ac ailagor cangen Abertyleri. Mae’r rhain yn bethau y gallem fod wedi’u cael pe byddem wedi cael tegwch gan Lywodraeth y DU.