Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:47, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, gwn y byddwch yn cofio bod Archwilio Cymru wedi canfod yn 2020 fod traean o gynghorau tref a chymuned Cymru wedi cael barn amodol eu cyfrifon—rhywbeth a gâi ei ystyried yn annerbyniol, wrth gwrs—a bod dros ddwy ran o dair o seddi cynghorwyr tref a chymuned yn seddi un ymgeisydd yn etholiadau lleol 2017; ni chafwyd etholiad mewn 80 y cant o wardiau. Nawr, rydym yn aros am ddadansoddiad o'r etholiad lleol mwyaf diweddar, ychydig wythnosau yn ôl, er y credaf y gallwn ddweud gyda sicrwydd, yn anecdotaidd, nad yw'r sefyllfa wedi gwella, a'i bod hyd yn oed wedi gwaethygu o bosibl. Felly, wedi dweud hynny, beth yw eich asesiad o gyflwr cynghorau tref a chymuned fel haen o lywodraeth leol yng Nghymru?