Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 25 Mai 2022.
Credaf mai fy asesiad fyddai fod yr haen yn gymysg. Byddwn yn dweud bod rhai awdurdodau lleol hynod egnïol—esgusodwch fi, cynghorau tref a chymuned—sy’n gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau: maent yn uchelgeisiol, mae ganddynt gynlluniau da i wella’r ardal, maent yn ymgysylltu’n dda â’r cymunedau o'u cwmpas, maent yn cynnal digwyddiadau, maent yn gwella'r amgylchedd lleol ac yn y blaen. Ond wedyn, ceir cynghorau tref a chymuned eraill sydd, mae’n rhaid imi ddweud, yn llawer llai uchelgeisiol, ac yn cyflawni llawer llai ar ran eu cymunedau, ac mae'n debyg mai'r weledigaeth gyffredinol yw cefnogi’r cynghorau cymuned hynny i gyrraedd lefel y goreuon, ac mae gennym gynghorau tref a chymuned rhagorol ledled Cymru.