Canolfannau Ailgartrefu Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:50, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth a drafodais gyda Hope Rescue yr wythnos diwethaf yn nigwyddiad Paws Luke Fletcher yn y Bae oherwydd ei fod yn rhywbeth yr oeddent yn amlwg yn bryderus iawn yn ei gylch. Gwn fod fy swyddogion mewn cysylltiad â Llywodraeth yr Alban i ddeall mwy am y newidiadau diweddar i amseroedd rhwng ymafael mewn cŵn ac ailgartrefu ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu neu a oes angen inni wneud unrhyw beth. Fel y gwyddoch, dywedais mewn ateb cynharach i Jayne Bryant ar y cynllun lles anifeiliaid ein bod yn bwriadu cryfhau gofynion trwyddedu ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys llochesau, ac yn amlwg, byddwn yn ymgynghori ar gwmpas unrhyw ddeddfwriaeth newydd.