Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 25 Mai 2022.
O'r gorau. Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi siarad â llawer o ganolfannau ailgartrefu sy'n cael trafferth gyda chapasiti, wedi'u heffeithio gan ddiffyg lle i gŵn a achubwyd oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd rhwng ymafael ynddynt a chynnal achos adran 20 i allu eu trosglwyddo. Mae canolfannau achub yn gorfod cadw cŵn a achubwyd am ymhell dros flwyddyn mewn rhai achosion, ac ni allant eu hailgartrefu tra bo achos yn mynd rhagddo. Mae hyn yn rhoi straen ariannol ar y canolfannau, ac mae hefyd yn golygu bod anifeiliaid yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach i ddod o hyd i gartref am oes. Roedd deddfwriaeth yn yr Alban a gyflwynwyd y llynedd yn lleihau'r amser rhwng ymafael mewn ci i allu ei ailgartrefu i ddim ond tair wythnos. Rwy'n credu eu bod yn cael eu hailgartrefu tra bod eu hachos yn mynd rhagddo. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth debyg, ac os nad ydyw, beth yw'r rhwystrau rhag gwneud hynny. Diolch.