Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:36, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd yn dda eich clywed yn dweud, mewn ymateb i Llyr Gruffydd yn gynharach, eich bod yn pryderu am golli tir. Ac wrth gwrs, gwyddom fod gwerth uchel iawn i dir yma yng Nghymru ac mae angen inni ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd. Rydym eisoes wedi clywed heddiw am Gilestone, a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prynu fferm gyda thir amaethyddol da at ddibenion eraill. Gwyddom hefyd fod cwmnïau ariannol mawr yn ystyried prynu tir ffermio yma yng Nghymru at ddibenion plannu coed, sy'n golygu ein bod yn colli tir amaethyddol da. Ond mae ffigurau a gefais drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos nad cwmnïau ariannol yn unig sy'n prynu tir ar gyfer plannu coed—mae Llywodraeth Cymru yn prynu tir amaethyddol o ansawdd da ar gyfer creu coetiroedd. Ar y cais rhyddid gwybodaeth sydd gennyf yma, mae Llywodraeth Cymru wedi prynu tir: £575,000 yn Rhuthun; £170,000 ym Mhenffordd-las; £260,000 yn y Drenewydd; £378,000 ym Mhorthaethwy; ac wrth gwrs, gwyddom am ystad Brownhill, sy'n werth £1.4 miliwn, yn Llangadog. Roedd hwnnw i gyd, mae'n dweud yn y fan hon, yn dir pori amaethyddol, ac mae'r rhesymau dros brynu yn ymwneud â chreu coetiroedd. Fel y Gweinidog amaethyddiaeth, a oeddech chi'n ymwybodol o hyn, ac a ydych yn falch o weld tir amaethyddol da yn cael ei brynu at ddibenion creu coetiroedd?