Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 25 Mai 2022.
Fe roesoch chi restr eithaf hir i mi yno; ni allaf ddweud fy mod yn gwybod am bob un ohonynt. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol bod CNC, er enghraifft, wedi bod yn prynu tir hefyd, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod, onid ydym, ac yn sicr yn y trafodaethau a gefais gyda Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig dros Blaid Cymru, fod angen inni weld cynnydd yn y ffordd yr awn i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac yn amlwg, mae coetir yn rhan o hynny. Rwy'n cael llawer o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn arwain ar goetiroedd, ynghyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y tir sy'n cael ei brynu. Yn amlwg, ni ddylai ac ni allai'r wladwriaeth, yn realistig, brynu darnau mawr o dir, ond credaf mai'r hyn y mae angen inni edrych arno yw sut rydym yn ei ddefnyddio, yr hyn y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer, ac yn sicr, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.