Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 25 Mai 2022.
O safbwynt polisi, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi i blannu mwy o goed, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n amlwg yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, wrthi'n caffael tir i blannu'r coed hynny arno. Mae'r Llywodraeth newydd brynu fferm Gilestone am £4.25 miliwn ym Mhowys. A fyddech yn ystyried safbwynt polisi i adfywio'r ystad mân-ddaliadau cyngor ledled Cymru drwy wneud cais i'r Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth gyfan i ddyrannu'r swm hwn o arian o adnoddau canolog i adfywio'r ystad daliadau cyngor ledled Cymru, a mynd ati i gaffael tir ychwanegol fel y gallech greu banc newydd o fân-ddaliadau cyngor i fod yn bwynt mynediad i lawer o bobl i'r sector amaethyddol?