Ffermydd y mae Cynghorau yn Berchen Arnynt

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:19, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Dychwelaf at yr hyn yr ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol iddo yn awr—nad yw'r rhan hon o'r setliad llywodraeth leol wedi'i neilltuo. Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cefnogi ein ffermwyr ifainc, os ydynt am edrych ar denantiaeth awdurdod lleol, er enghraifft. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun Mentro sydd gennym lle rydym yn edrych ar y ddau ben—y newydd-ddyfodiaid iau a'r bobl sy'n dymuno gadael ffermio. Nid yw'n rhywbeth yr wyf wedi ystyried siarad â'r Gweinidog cyllid yn ei gylch o gwbl.