Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 25 Mai 2022.
Wel, fel y gwyddoch, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil bwyd Peter Fox. Mae Peter a minnau wedi cyfarfod, ac mae Peter yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam nad ydym yn cefnogi'r Bil bwyd. Credaf y gallwn wneud llawer o awgrymiadau Peter, sy'n rhai da iawn, heb ddeddfwriaeth, a byddwn yn hapus iawn i barhau i weithio gydag ef a chyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, gan fwrw ymlaen â'r strategaeth bwyd cymunedol, a fydd, yn fy marn i, yn cwmpasu llawer o'r cynigion ym Mil Peter Fox. Fe wnaethoch ofyn eich cwestiwn heb unrhyw ymdeimlad o eironi. Rhaid imi ddweud bod chwyddiant ar lefel sy'n peri llawer iawn o bryder; mae ar lefel uwch nag a welsom yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer, a dyna pam y mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn.