Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn. Efo costau yn cynyddu gymaint, mae'n bwysicach nag erioed fod amaeth yn gallu bod mor gynhyrchiol â phosib, ac mae gwneud y defnydd gorau o'r tir gorau yn rhan o hynny. Dwi'n falch, yng nghyd-destun ceisiadau am gynlluniau solar, fod yna farn yn cryfhau rŵan fod angen cadw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas—the best and most versatile land—ar gyfer amaeth. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny, wrth i ni yn Ynys Môn wynebu nifer uchel o geisiadau am ddatblygiadau solar.
Ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn Mabon ap Gwynfor, tybed all y Gweinidog ddweud ydy hynny yn berthnasol hefyd wrth i'r Llywodraeth ystyried ble i blannu coed. Mae'r Llywodraeth yn prynu tir ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, ac, ar ôl deall bod tir yn Nhyn y Mynydd, ym Mhenmynydd yn Ynys Môn wedi ei brynu gan y Llywodraeth i blannu coed, ydy'r Gweinidog yn gallu dweud ydy hwnnw yn dir BMV ai peidio, achos siawns bod yr un egwyddor yn wir yn fan hyn hefyd?