Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 25 Mai 2022.
Gan nad oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn barod i dderbyn ymyriad, rwyf am wneud y pwynt yr oeddwn am ei wneud bryd hynny. Un o’r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o ddadfuddsoddi fel hyn fyddai perswadio’r cwmnïau sy'n draddodiadol wedi gwneud eu helw o danwydd ffosil i newid cyfeiriad. Mae a wnelo hyn â’u perswadio i weithio mewn ffordd foesegol drwy ddweud, 'Byddwn yn buddsoddi yn y rhan honno o’ch busnes, ond mae'r amser ar ben ar y rhan arall acw’.