5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:41, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod yno. Credaf fod Jack yn iawn yn y cynnig i nodi'r cynnydd mewn perthynas â’n cronfeydd pensiwn ein hunain fel Aelodau o’r Senedd, ond efallai y bydd yn syndod i rai Aelodau yma heddiw nad yw’r un peth yn wir am ein staff. A dweud y gwir, mae'n fater y mae un o aelodau fy nhîm wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers dechrau gyda mi. Roedd yr unigolyn, mewn gwirionedd, wedi gwrthod swydd gydag awdurdod lleol am nad oeddent yn gallu cynnig pensiwn amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, a gwnaethant gytuno i rôl yn fy nhîm am eu bod o dan yr argraff fod cynllun pensiwn y Senedd yn eu cofrestru'n awtomatig ar gynllun amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Fodd bynnag, ar ôl bod drwy’r broses o gofrestru ar gyfer pensiwn, roedd yr unigolyn yn siomedig o glywed y canlynol: nad yw staff yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y cynllun, ni chânt wybod bod opsiwn ar gael i gymryd rhan yn y cynllun—