Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn yn wir. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn rhannu'r un nodau. Cyrhaeddodd y byd anterth ei gynhyrchiant olew ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae’r byd yn rhedeg allan o danwydd ffosil, p’un a ydym yn eu caru neu’n eu casáu, ac felly ychydig flynyddoedd yn unig sydd gennym i roi system ynni amgen ar waith, ond nid yw'r dechnoleg yn gwbl barod eto. Sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth y gallai cannoedd o filiynau neu hyd yn oed biliynau o bobl farw heb gyflenwad tanwydd ffosil wrth gefn yn ystod y cyfnod pontio?