Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 25 Mai 2022.
Credaf mai'r pwynt yn y fan hon yw trosglwyddo buddsoddiad tuag at y technolegau hynny, technolegau y mae eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol, ac os na fyddwn yn buddsoddi yn y dechnoleg honno a’r arloesedd, byddwn yn aros am byth am y dewisiadau amgen yn lle tanwydd ffosil. Felly, bydd buddsoddi yn y dewisiadau amgen hynny ac yn yr arloesedd a’r ymchwil i ddod o hyd i’r dewisiadau amgen hynny yn gwbl hanfodol. Ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn dadlau o ddifrif yn erbyn y pwynt hwnnw.
Fel y nododd un rheolwr pensiwn, gosod targed sero net hirdymor yw'r rhan hawdd; yr her yw cael y fframwaith credadwy a thryloyw sy’n galluogi eich cronfa i droi’r bwriad hwnnw yn benderfyniadau a chamau gweithredu ymarferol. Credaf fod hynny’n ateb pryder Mark Isherwood.
Ond wrth gwrs, mae'n wirioneddol bwysig nodi'n glir iawn yn y cyswllt hwn nad oes gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo awdurdodau neu ymddiriedolwyr cynllun pensiwn y sector cyhoeddus i fuddsoddi neu i beidio â buddsoddi mewn ffyrdd penodol. Ymddiriedolwyr pensiynau, aelodau etholedig a swyddogion a rheolwyr pob cronfa sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau aelodau’r cronfeydd, ac mae buddiannau eu haelodau yn amlwg yn cynnwys sicrhau enillion da, ond yn yr un modd, mae’n golygu ymateb—ymateb i ddymuniadau’r aelodau ac ymateb i’r risgiau ariannol a achosir gan newid hinsawdd, a chwarae eu rhan, hefyd, i sicrhau bod planed gyfanheddol ar ôl i genedlaethau’r dyfodol gael mwynhau eu hymddeoliad, fel y dywedodd cynifer o'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Felly, credaf mai rôl y Llywodraeth yw gweithio gydag awdurdodau pensiwn ar draws y sector cyhoeddus. Mae'n ymwneud â galw'r trafodaethau hynny ynghyd a sicrhau y ceir dysgu ar y cyd er mwyn inni allu bod yn sicr eu bod yn cydnabod y risgiau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae'n ymwneud â chefnogi arferion gorau a lleihau rhwystrau yn ogystal ag annog uchelgais a chyflymder lle mae eu hangen.
Er nad wyf yma i egluro gweithredoedd yr awdurdodau pensiwn a’r ymddiriedolwyr, credaf eu bod yn ymateb i’r mater. Mae gan gronfa'r cynllun pensiwn llywodraeth leol bolisi newid hinsawdd a pholisi buddsoddi cyfrifol, yn ogystal â chronfa garbon isel nad yw'n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n dibynnu ar lo i gynhyrchu refeniw. Maent hefyd wedi cyflwyno adroddiadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu annibynnol ac adroddiadau annibynnol ar risgiau hinsawdd, ac mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf o’u buddsoddiadau goddefol i gronfeydd olrhain carbon isel. Mae pensiwn Aelodau’r Senedd wedi ymrwymo i symud buddsoddiadau oddi wrth danwydd ffosil. Ac rwyf eisoes wedi cyfarfod ag aelodau o awdurdodau pensiwn llywodraeth leol, ac fe wnaethom gytuno i drafod y mater penodol hwn gydag arweinwyr llywodraeth leol yn y cyngor partneriaeth statudol, fel rhan o'n ffocws parhaus ar ymateb i newid hinsawdd.
Wrth gwrs, rydym eisiau gweld camau gweithredu uchelgeisiol, cyflymach ar yr agenda hon, ac yng Nghymru, mae gennym gyfleoedd i gronfeydd pensiwn fuddsoddi wrth inni gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Rydym yn sefydlu swyddogaeth datblygu ynni adnewyddadwy cyhoeddus a fydd yn ceisio sicrhau buddsoddiad i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i Gymru. Felly, rydym eisiau gweithio gyda chronfeydd pensiwn yng Nghymru i archwilio'r cyfle i gysylltu'r datblygiad hwnnw yng Nghymru â buddsoddiad o Gymru, ac nid yw hwn yn faes lle y gall Llywodraeth Cymru fandadu newid. Os ydym yn dymuno newid, mae'n rhaid inni helpu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd drwy'r dull partneriaeth cydweithredol hwnnw. Ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol o ran arwain, cefnogi a hwyluso. Mae angen inni weithio ar y cyd â phartneriaid mewn llywodraeth leol ac ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys ein hundebau llafur, ar yr hyn sydd, wedi’r cyfan, fel y dywedais ar y dechrau, yn uchelgais a rennir. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig i weithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030. Diolch.