Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 25 Mai 2022.
Nawr, os edrychwn ar agwedd arall, wrth edrych ar gyllid ar gyfer COVID-19 ac ymdrin â'r pandemig, ymhell o brofi cryfder yr undeb, ymateb y DU i'r pandemig mewn gwirionedd oedd un cymhorthdal enfawr i dde Lloegr. Mae'r Ganolfan Polisi Blaengar wedi cyfrifo bod Llywodraeth y DU wedi gwario £1,000 yn fwy y pen ar drigolion Llundain nag ar drigolion Cymru, a £6.9 biliwn yn fwy ar Lundain na phe bai gwariant argyfwng wedi'i ddyrannu'n gyfartal i bob gwlad a rhanbarth.
Ymateb i flaenoriaethau San Steffan yw rhanbarthau cynllunio strategol presennol Cymru, gan gynnwys bargeinion dinesig a thwf Llywodraeth y DU a chronfeydd ffyniant cyffredin. Maent yn amddifadu tri chwarter Cymru o hyfywedd economaidd a diwylliannol, ac yn parhau i wneud ein dyfodol yn ddibynnol ar friwsion o fwrdd rhywun arall, yn hytrach na gwasanaethu fel cyfrwng i gysylltu ein cymunedau rhwng y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin, a gwireddu potensial ein gwlad ein hunain.
I droi at sector y mae ffrydiau ariannu ôl-Brexit yn effeithio'n fawr arno, mae'r Ceidwadwyr, unwaith eto, wedi torri'r addewidion a wnaed yn eu maniffesto yn 2019 i gymunedau gwledig ac amaethyddol. Rhaid inni ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ymrwymiadau a wnaed ynglŷn â chyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru yn y dyfodol. Cyhoeddodd cyllideb yr hydref a'r adolygiad o wariant y byddai £300 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, sef £37 miliwn yn llai na'r gyllideb a ddyrannwyd yn 2019. Dyna pryd yr addawodd maniffesto'r Torïaid warantu cyllideb bresennol y polisi amaethyddol cyffredin i ffermwyr ym mhob blwyddyn o'r Senedd nesaf. Bydd hyn yn golygu bod amaethyddiaeth Cymru tua £248 miliwn, bron £0.25 biliwn, yn waeth ei byd erbyn 2025. Mae'r cyd-destun presennol wedi arwain at fwy o ansicrwydd i ffermwyr Cymru, gan ei gwneud yn anos i randdeiliaid a llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru ddarparu'r manylion a'r eglurder sydd eu hangen ar ffermwyr Cymru. Er bod rhai ffermwyr yn aml o'r farn fod system hirsefydlog y PAC yn rhwystr biwrocrataidd i weithgarwch ffermio, ni ellid amau ei chryfderau yn darparu chwarae teg ar draws llawer o wledydd. Am flynyddoedd, rhoddodd y PAC gymorth sylfaenol i ffermwyr ledled Cymru ac Ewrop a'u diogelu rhag aflonyddu ar y farchnad. Fel y nodwyd eisoes, mae Brexit wedi cael gwared ar hyn. Rydym bellach yn rhuthro i lenwi'r bwlch deddfwriaethol a adawyd ar ôl wrth i'r DU adael yr UE, a'r PAC yn sgil hynny.
Ac o ran cronfeydd strwythurol yr UE, gan eu bod wedi'u dyrannu ar asesiad gwrthrychol o angen, yn hanesyddol, arweiniodd y dull hwnnw sy'n seiliedig ar anghenion at Gymru'n cael 24 y cant o gyllid strwythurol y DU, mwy y pen nag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, gan adlewyrchu'r bwlch sy'n bodoli rhwng rhannau tlotaf Cymru a chyfartaledd y DU. Yn ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gyllid ôl-UE, mae'r NFU wedi awgrymu y dylai'r Cyngor Cynghori ar Ffyniant Bro, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU, gynnwys cynrychiolaeth benodol o Gymru a chefn gwlad er mwyn rhoi hyder y ceir arian yn lle arian yr UE yn llawn. Maent hefyd yn dweud eu bod yn credu
'y dylid ymgynghori'n ffurfiol ar ffrydiau ariannu yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei oruchwylio'n strategol effeithiol fel y gall weithio i Gymru, ffermio a'n cymunedau gwledig' hefyd.