Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar adroddiad effaith Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2020-21. Mae Llywodraeth Cymru wedi elwa ers blynyddoedd lawer o berthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda thîm y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hyn wedi parhau drwy'r cyfnod y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin ag ef, ac mae wedi'i adlewyrchu ar draws llawer o'r materion mae'n tynnu sylw atynt. Hoffwn ddiolch i Martyn Jones am ei arweinyddiaeth fel cadeirydd dros dro pwyllgor Cymru yn ystod y cyfnod mae'r adroddiad effaith yn ymdrin ag ef, ac estyn croeso cynnes i Eryl Besse ar ei phenodiad diweddar fel comisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Rydym ni’n rhannu'r nod craidd a nodwyd yn yr adroddiad effaith yn llawn, er mwyn sicrhau, ac rwy’n dyfynnu,
'Mae cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cryf yn amddiffyn pobl, ac mae data'n dangos beth sy'n digwydd i bobl yn ymarferol.'
Yn ystod y pandemig ac ers hynny, rydym ni wedi bod yn gweithredu mewn sawl maes sy'n dangos ein hymrwymiad yn hynny o beth. Mewn partneriaeth â thîm Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, rydym ni wedi bwrw ymlaen â'r adolygiad o reoliadau Cymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Cafodd y gwaith hwn ei ohirio oherwydd COVID, ond mae bellach yn cael ei ddatblygu fel rhan o'n hymateb i'r adroddiad ymchwil cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Daeth y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, gan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol ystyried anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae'r ddyletswydd wedi'i chroesawu, ac mae enghreifftiau eisoes o gyrff cyhoeddus yn integreiddio'r ddyletswydd i fframweithiau cynllunio ac adrodd.
Rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a phartneriaid i fwrw ymlaen â hyn, gan gydnabod argymhelliad y comisiwn yn ei adroddiad o 2018 'A yw Cymru'n Decach?'. Ac fel rwyf wedi’i ddweud, mae eisoes yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach. Mae wedi cydnabod bod gwaith teg yn hanfodol i sicrhau economi gryfach, wedi'i moderneiddio a mwy cynhwysol. Gall helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, lleihau tlodi, a hyrwyddo lles. Ac mae gwaith yn parhau wrth i ni gyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gyda'r datganiad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol heddiw, gan gyflwyno partneriaethau cymdeithasol newydd a dyletswyddau caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.
Mae ein cynllun 'Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru' yn darparu'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn y dirwedd i fenywod yng Nghymru, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn rhoi blaenoriaeth i weithredu agweddau allweddol ar y cynllun hwn. Mae'r pandemig wedi datgelu dibyniaeth cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod, fel gofalwyr di-dâl ac fel gweithwyr ym maes gofal, gwaith cymdeithasol a lletygarwch. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ba mor wych yw cyfraniad menywod i'r ymateb gwyddonol a chlinigol.
Wrth i ni symud allan o'r argyfwng hwn ac i un arall ar gostau byw, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhoi gwerth llawer cryfach ar y gwaith hwn, sy'n ganolog i'n heconomi a'n cymunedau. I gefnogi hyn, mae is-grŵp cydraddoldeb rhywiol wedi'i gynnull, sy'n dwyn ynghyd rhanddeiliaid sy'n gweithio ar faterion cydraddoldeb rhywiol ledled Cymru. Dwy flaenoriaeth a nodwyd gan y grŵp yw iechyd menywod a sut mae gofal di-dâl yn syrthio'n anghymesur i fenywod. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gryfhau ac ehangu'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys pwyslais ar drais yn erbyn menywod yn y stryd ac yn y gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenywod. Ac fe fyddwch chi’n gwybod, wrth gwrs, fod strategaeth genedlaethol VAWDASV 2022-26 wedi'i chyhoeddi ar 24 Mai.
Er mwyn sicrhau bod ein holl waith ar gydraddoldeb yn seiliedig ar dystiolaeth—sy'n alwad allweddol o'r adroddiad effaith—rydym ni wedi sefydlu uned dystiolaeth cydraddoldeb, uned dystiolaeth gwahaniaeth hiliol, ac uned dystiolaeth gwahaniaethau rhwng anabledd. Mae ganddyn nhw genhadaeth gyffredin i wella argaeledd, ansawdd a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig fel ein bod yn deall yn llawn y lefel a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy gwybodus ac asesu a mesur eu heffaith, ochr yn ochr â helpu, wrth gwrs, i lywio dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cydnabod y dylanwad maen nhw wedi’i gael ar yr ymgynghoriad a arweiniodd at strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, 'Llwybr Newydd', a lansiwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 17 Tachwedd, gan esbonio sut yr ydym ni’n bwriadu agor ein system drafnidiaeth i fyd gwahanol. Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy gyda'r nod o sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei integreiddio i gynllunio trafnidiaeth ar y lefel uchaf, yn hytrach na'i ystyried yn fater ar wahân.
Cyd-Aelodau, rydym ni newydd gyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' y prynhawn yma, ac mae'r Comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r cynllun, wrth gwrs, fel rydym ni wedi'i drafod y prynhawn yma, yn galw am ddim goddefgarwch o hiliaeth o bob math, a nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru gwrth-hiliol sy'n cynnwys nodau, camau gweithredu, amserlenni a chanlyniadau diriaethol, a fydd yn ein symud o'r rhethreg ar gydraddoldeb hiliol ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu'n ystyrlon.
Rydym ni hefyd wedi ymrwymo'n llwyr fel Llywodraeth Cymru i gefnogi holl bobl anabl Cymru. Cyhoeddwyd ‘Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y tu hwnt i COVID-19' ym mis Gorffennaf 2021, gan dynnu sylw at yr anghydraddoldebau mae llawer o bobl anabl yn eu hwynebu yng Nghymru. Mewn ymateb, mae'r tasglu hawliau anabledd wedi'i sefydlu, gan ddod â phobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon at ei gilydd. Mae arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol wedi nodi'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl.
Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru yn chwarae rhan hanfodol mewn perthynas â chydraddoldeb; mae'n hanfodol adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth fel bod dysgwyr yn deall sut mae'r amrywiaeth hon wedi llunio'r Gymru fodern. Fe wnaethom drafod hyn eto y prynhawn yma gyda datganiad gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, ond mae hefyd yn bwysig bod y cwricwlwm yn darparu cyfleoedd pwysig o ran perthnasoedd ac addysg rhywioldeb.
Yn olaf, Llywydd, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hymchwil i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol bellach wedi'i gyhoeddi. Rwy’n croesawu'r traciwr hawliau dynol, un o'r cyntaf yn y byd sydd wedi'i gynhyrchu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym ni, yn ein hymchwil, yn nodi'r prif feysydd rydym ni eisiau eu datblygu, gan gynnwys archwilio opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, megis Bil hawliau dynol i Gymru, yn unol â'n rhaglen lywodraethu.
Ond hefyd, rydym ni’n cyhoeddi corff mawr o dystiolaeth fel rhan o'n paratoadau ar gyfer adolygiad y Cenhedloedd Unedig eleni o sut mae'r DU gyfan yn cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol—yr adolygiad cyfnodol cyffredinol. Dyma fydd y tro cyntaf i ni gymryd y cam hwn, yn ogystal â chyfrannu at adroddiad gwladol y DU a baratowyd gan Lywodraeth y DU. Mae gwneud hynny'n arwydd pellach o'n hymrwymiad i godi proffil cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi trosolwg pwysig i ni o waith y comisiwn yng Nghymru, ac mae'n dangos yn glir yr angen am wyliadwriaeth barhaus a chamau ymarferol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol i gefnogi pob un ohonom ni, yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o gael eu hymyleiddio, eu herlid neu ddioddef gwahaniaethu. Rydw i’n cymeradwyo'r cynnig.