9. Dadl: Adolygiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

– Senedd Cymru am 5:20 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:20, 7 Mehefin 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adolygiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyfiawnder i wneud y cynnig yma, sef Jane Hutt.

Cynnig NDM8013 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Effaith Cymru 2020-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:21, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar adroddiad effaith Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2020-21. Mae Llywodraeth Cymru wedi elwa ers blynyddoedd lawer o berthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda thîm y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hyn wedi parhau drwy'r cyfnod y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin ag ef, ac mae wedi'i adlewyrchu ar draws llawer o'r materion mae'n tynnu sylw atynt. Hoffwn ddiolch i Martyn Jones am ei arweinyddiaeth fel cadeirydd dros dro pwyllgor Cymru yn ystod y cyfnod mae'r adroddiad effaith yn ymdrin ag ef, ac estyn croeso cynnes i Eryl Besse ar ei phenodiad diweddar fel comisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Rydym ni’n rhannu'r nod craidd a nodwyd yn yr adroddiad effaith yn llawn, er mwyn sicrhau, ac rwy’n dyfynnu,

'Mae cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cryf yn amddiffyn pobl, ac mae data'n dangos beth sy'n digwydd i bobl yn ymarferol.'

Yn ystod y pandemig ac ers hynny, rydym ni wedi bod yn gweithredu mewn sawl maes sy'n dangos ein hymrwymiad yn hynny o beth. Mewn partneriaeth â thîm Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, rydym ni wedi bwrw ymlaen â'r adolygiad o reoliadau Cymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Cafodd y gwaith hwn ei ohirio oherwydd COVID, ond mae bellach yn cael ei ddatblygu fel rhan o'n hymateb i'r adroddiad ymchwil cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Daeth y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, gan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol ystyried anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae'r ddyletswydd wedi'i chroesawu, ac mae enghreifftiau eisoes o gyrff cyhoeddus yn integreiddio'r ddyletswydd i fframweithiau cynllunio ac adrodd.

Rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a phartneriaid i fwrw ymlaen â hyn, gan gydnabod argymhelliad y comisiwn yn ei adroddiad o 2018 'A yw Cymru'n Decach?'. Ac fel rwyf wedi’i ddweud, mae eisoes yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach. Mae wedi cydnabod bod gwaith teg yn hanfodol i sicrhau economi gryfach, wedi'i moderneiddio a mwy cynhwysol. Gall helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, lleihau tlodi, a hyrwyddo lles. Ac mae gwaith yn parhau wrth i ni gyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gyda'r datganiad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol heddiw, gan gyflwyno partneriaethau cymdeithasol newydd a dyletswyddau caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Mae ein cynllun 'Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru' yn darparu'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn y dirwedd i fenywod yng Nghymru, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn rhoi blaenoriaeth i weithredu agweddau allweddol ar y cynllun hwn. Mae'r pandemig wedi datgelu dibyniaeth cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod, fel gofalwyr di-dâl ac fel gweithwyr ym maes gofal, gwaith cymdeithasol a lletygarwch. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ba mor wych yw cyfraniad menywod i'r ymateb gwyddonol a chlinigol.

Wrth i ni symud allan o'r argyfwng hwn ac i un arall ar gostau byw, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhoi gwerth llawer cryfach ar y gwaith hwn, sy'n ganolog i'n heconomi a'n cymunedau. I gefnogi hyn, mae is-grŵp cydraddoldeb rhywiol wedi'i gynnull, sy'n dwyn ynghyd rhanddeiliaid sy'n gweithio ar faterion cydraddoldeb rhywiol ledled Cymru. Dwy flaenoriaeth a nodwyd gan y grŵp yw iechyd menywod a sut mae gofal di-dâl yn syrthio'n anghymesur i fenywod. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gryfhau ac ehangu'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys pwyslais ar drais yn erbyn menywod yn y stryd ac yn y gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenywod. Ac fe fyddwch chi’n gwybod, wrth gwrs, fod strategaeth genedlaethol VAWDASV 2022-26 wedi'i chyhoeddi ar 24 Mai.

Er mwyn sicrhau bod ein holl waith ar gydraddoldeb yn seiliedig ar dystiolaeth—sy'n alwad allweddol o'r adroddiad effaith—rydym ni wedi sefydlu uned dystiolaeth cydraddoldeb, uned dystiolaeth gwahaniaeth hiliol, ac uned dystiolaeth gwahaniaethau rhwng anabledd. Mae ganddyn nhw genhadaeth gyffredin i wella argaeledd, ansawdd a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig fel ein bod yn deall yn llawn y lefel a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy gwybodus ac asesu a mesur eu heffaith, ochr yn ochr â helpu, wrth gwrs, i lywio dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cydnabod y dylanwad maen nhw wedi’i gael ar yr ymgynghoriad a arweiniodd at strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, 'Llwybr Newydd', a lansiwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 17 Tachwedd, gan esbonio sut yr ydym ni’n bwriadu agor ein system drafnidiaeth i fyd gwahanol. Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy gyda'r nod o sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei integreiddio i gynllunio trafnidiaeth ar y lefel uchaf, yn hytrach na'i ystyried yn fater ar wahân.

Cyd-Aelodau, rydym ni newydd gyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' y prynhawn yma, ac mae'r Comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r cynllun, wrth gwrs, fel rydym ni wedi'i drafod y prynhawn yma, yn galw am ddim goddefgarwch o hiliaeth o bob math, a nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru gwrth-hiliol sy'n cynnwys nodau, camau gweithredu, amserlenni a chanlyniadau diriaethol, a fydd yn ein symud o'r rhethreg ar gydraddoldeb hiliol ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu'n ystyrlon.

Rydym ni hefyd wedi ymrwymo'n llwyr fel Llywodraeth Cymru i gefnogi holl bobl anabl Cymru. Cyhoeddwyd ‘Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y tu hwnt i COVID-19' ym mis Gorffennaf 2021, gan dynnu sylw at yr anghydraddoldebau mae llawer o bobl anabl yn eu hwynebu yng Nghymru. Mewn ymateb, mae'r tasglu hawliau anabledd wedi'i sefydlu, gan ddod â phobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon at ei gilydd. Mae arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol wedi nodi'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl.

Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru yn chwarae rhan hanfodol mewn perthynas â chydraddoldeb; mae'n hanfodol adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth fel bod dysgwyr yn deall sut mae'r amrywiaeth hon wedi llunio'r Gymru fodern. Fe wnaethom drafod hyn eto y prynhawn yma gyda datganiad gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, ond mae hefyd yn bwysig bod y cwricwlwm yn darparu cyfleoedd pwysig o ran perthnasoedd ac addysg rhywioldeb.

Yn olaf, Llywydd, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hymchwil i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol bellach wedi'i gyhoeddi. Rwy’n croesawu'r traciwr hawliau dynol, un o'r cyntaf yn y byd sydd wedi'i gynhyrchu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym ni, yn ein hymchwil, yn nodi'r prif feysydd rydym ni eisiau eu datblygu, gan gynnwys archwilio opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, megis Bil hawliau dynol i Gymru, yn unol â'n rhaglen lywodraethu.

Ond hefyd, rydym ni’n cyhoeddi corff mawr o dystiolaeth fel rhan o'n paratoadau ar gyfer adolygiad y Cenhedloedd Unedig eleni o sut mae'r DU gyfan yn cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol—yr adolygiad cyfnodol cyffredinol. Dyma fydd y tro cyntaf i ni gymryd y cam hwn, yn ogystal â chyfrannu at adroddiad gwladol y DU a baratowyd gan Lywodraeth y DU. Mae gwneud hynny'n arwydd pellach o'n hymrwymiad i godi proffil cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi trosolwg pwysig i ni o waith y comisiwn yng Nghymru, ac mae'n dangos yn glir yr angen am wyliadwriaeth barhaus a chamau ymarferol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol i gefnogi pob un ohonom ni, yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o gael eu hymyleiddio, eu herlid neu ddioddef gwahaniaethu. Rydw i’n cymeradwyo'r cynnig.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 5:29, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn groesawu cyhoeddi adroddiad effaith Cymru 2020-21 ac ehangder y gwaith mae'r comisiwn yn ymwneud ag ef. Mae'n amlwg eu bod wedi datblygu rôl strategol sylweddol yng Nghymru, gan ymgysylltu â llawer o waith y Llywodraeth, y Senedd a phartneriaid allweddol eraill. Mae tystiolaeth glir o hynny yn eu hadroddiad. Maen nhw wedi rhoi cyngor i sefydliadau ac wedi cefnogi'r ymdrechion yn ystod cyfnodau'r pandemig, gan gynnwys herio Llywodraeth Cymru drwy graffu ar y dull cyffredinol amhriodol o ymdrin â phenderfyniadau gofal iechyd ar faterion fel hysbysiadau 'peidio â cheisio dadebru', rheolau ynghylch ymweliadau â chartrefi gofal, profi i breswylwyr a staff cartrefi gofal a rhyddhau pobl hŷn â COVID-19 o ysbytai i gartrefi gofal. Rwy’n croesawu'r dull cadarn o ymdrin â'r materion allweddol hyn, gan weithio'n agos gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i dynnu sylw at bryderon mor bwysig. Yn yr ymchwiliad COVID sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, rwy’n gobeithio y bydd y sylwadau beirniadol hyn yn cael eu cynnwys fel tystiolaeth o effaith COVID ei hun, nid o ran COVID ei hun, ond o benderfyniadau Gweinidogion Cymru ar hawliau dynol pobl hŷn yng Nghymru.

Cyn troi at bwyntiau penodol yn yr adroddiad, hoffwn ddweud, gan ein bod ni eisoes yn nesáu at ganol 2022, ei bod braidd yn rhwystredig ein bod yn ystyried adroddiad sydd eisoes dros 12 mis wedi dyddio, o'i gymharu â llawer o gyrff cyhoeddus eraill a fydd eisoes wedi cyhoeddi eu hadroddiadau ar gyfer 2021-22. Er mwyn gwneud yr ymarfer hwn yn fwy gwerthfawr, mae angen mynd i'r afael â hyn ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol. Wedi dweud hynny, rwy’n croesawu'r cyfle i ystyried yr ystod o waith y maen nhw’n ymwneud ag ef. Fe wnes i ddweud fod tystiolaeth o'u heffaith strategol fel partner allweddol. Mae hynny'n amlwg. Yr hyn sydd ychydig yn aneglur yw sut y gall y comisiwn fesur yn ddigonol effaith eu gwaith yng Nghymru ac a ydyn nhw, fel corff cyhoeddus yn y DU, wedi gwneud hyn yn effeithiol.

Mae cyflwyniad adroddiad effaith Cymru yn dweud, rwy’n dyfynnu:

'Mae ein pwerau cyfreithiol unigryw yn caniatáu i ni newid bywydau'n glir. Yn y cyfnod heriol hwn, rydym ni’n defnyddio'r pwerau hyn yn fwy cadarn ac yn fwy deallus nag erioed o'r blaen.’

Rwy’n cytuno â'r datganiad hwn. Fel sefydliad a grëwyd drwy statud, maen nhw wedi cael pwerau sylweddol gan y Senedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo gwelliant. Fodd bynnag, y tu hwnt i'r naratif cyffredinol yn yr adroddiad, sy'n nodi llawer o gamau gweithredu ac ymgysylltu, mae'n anodd dangos sut mae eu pwerau cyfreithiol wedi newid bywydau'n sylweddol, a lle gall pobl Cymru weld cymaint o effaith yn y modd cadarn mae'r adroddiad yn ei awgrymu. Mae'r nodau'n sylweddol.

Rwy’n credu bod monitro hawliau dynol yn awr yr un mor bwysig ag erioed, ac yn codi ymwybyddiaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n gwahardd gwahaniaethu mewn cymdeithas ehangach. Yn ystod y pandemig, roedd polisïau 'peidiwch â dadebru' ar waith ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu, neu wrth drin pobl hŷn. Mae'r polisi cyffredinol hwn yn wahaniaethol ac yn torri hawliau dynol. Rhaid i ni weithio'n galetach i greu Cymru decach a mwy diogel i bawb. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:33, 7 Mehefin 2022

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith hollbwysig ac, yn wir, yn ystod y cyfnod pryderus hwn, pan fo hawliau dynol dan fygythiad digynsail o du Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, yn gwneud gwaith cwbl allweddol i sicrhau bod sefydliadau a Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar bob cyfle i sicrhau tegwch i bobl Cymru. Felly, rwy'n falch o gydnabod y gwaith hwnnw yma yn y Siambr.

Er mwyn paratoi ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, edrychais yn ôl ar adroddiadau blaenorol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r sylwadau a chwestiynau perthnasol a godwyd yn eu sgil, a bob blwyddyn, mae'n ymddangos ein bod yn teimlo bod y bygythiad i hawliau dynol yn ddigynsail. Dros y blynyddoedd diweddar, wrth ymateb i'r adroddiadau, rŷn ni wedi cyfeirio at bolisïau llymder yn bygwth cyflogaeth a bywoliaeth a goblygiadau niweidiol Brexit a oedd yn rhoi sylfaen hawliau dynol mewn perygl. Wedyn, dros y blynyddoedd, mae yna ddatblygiad amlwg hefyd wedi bod yn yr ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ar hawliau dynol. A gwelsom, er enghraifft, hawliau sylfaenol i gartref diogel yn cael eu golchi i ffwrdd yn llythrennol wrth i rai o'n cymunedau ddioddef llifogydd mwy cyson a mwy difrifol. Ac wrth inni gael ein taro gan bandemig byd-eang, wrth gwrs, bu i bob un ohonom ni archwilio natur ein hawl i ofal iechyd ac iechyd, i gael cyswllt gyda'n gilydd, a'n hawliau fel gweithwyr. Amlygwyd sut y cafodd hawliau rhai grwpiau penodol, fel y cyfeiriodd Altaf Hussain, o'n cymdeithas, er enghraifft pobl anabl a phlant, pobl mewn cartrefi gofal, a'r rhai a oedd yn derbyn gofal mamolaeth, eu tramgwyddo a'u hesgeuluso yn ddifrifol ar brydiau gan rai o benderfyniadau'r Llywodraeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:36, 7 Mehefin 2022

A nawr rŷn ni'n wynebu argyfwng costau byw cwbl enbyd a thrychinebus, wrth gwrs—argyfwng economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o, ac yn cael ei ddyfnhau yn raddol gan effaith gyfansawdd nifer o'r elfennau hyn, yn ogystal â rhai elfennau newydd fel pris ynni a rhyfel ar ein cyfandir, gan fygwth rhai o hawliau dynol mwyaf sylfaenol ein pobl i fwyd a gwres. Yr hyn a wnaeth fy nharo oedd, er gwaethaf y rhagdybiaeth gyffredinol fod hawliau dynol yn arhosol ac wedi eu hymwreiddio yn gadarn i wead ein cymdeithas, mae'n amlwg bod angen inni weithio'n galetach i'w diogelu o flwyddyn i flwyddyn. Ac mae'r pwysau ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, felly, yn dwysáu a'u gwaith yn cynyddu. I droi at adroddiad diweddaraf y comisiwn yng Nghymru, rwy'n cymeradwyo eu gwaith a'u ffocws penodol ar addysg a phobl ifanc, y defnydd o ataliaeth mewn ysgolion, sy'n dal i fod yn gymaint o bryder i gymaint o rieni â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, yr angen i drafnidiaeth fod yn fwy cynhwysol a chymwys ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn, gwaith teg, fel y clywsom ni gan y Gweinidog, a mynediad at gyfiawnder.

Mae camwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y meysydd rwyf wedi eu rhestru y bu'r comisiwn yn ymchwilio iddynt yn codi'n aml yn fy ngwaith achos, fel nifer o Aelodau eraill, dwi'n siŵr. Felly, mae gwaith y comisiwn i daflu goleuni ar y materion yma er mwyn sicrhau datrysiadau polisi yn hynod werthfawr. Mae gwaith monitro a chasglu data y comisiwn yn agwedd hanfodol ar graffu ar Lywodraeth Cymru a'u dwyn i gyfrif. Ac fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae diffyg data priodol wedi codi dro ar ôl tro yn ein hymchwiliadau ac felly rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gweld yr angen o'r diwedd am uned ddata cydraddoldebau penodol i fynd i'r afael â'r bylchau yn y data, i gynorthwyo yn y gwaith o fonitro a chreu polisïau mwy effeithiol. A hoffwn i glywed, felly, gan y Llywodraeth beth yw'r cynnydd o ran yr uned yma a fyddai'n ddiau yn cynorthwyo y comisiwn yn eu hymchwiliadau. A yw'n llwyr weithredol? Rŷn ni'n clywed ei bod wedi cael ei sefydlu—a yw'n llwyr weithredol eto? Ac a fydd y wybodaeth hanfodol yma ar gael i sefydliadau ymchwil arbenigol? 

Nid yn unig y mae cyfrifoldebau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynyddu, ond maent hefyd yn wynebu Llywodraeth yn San Steffan sy'n elyniaethus i'w gwaith, sy'n anelu at danseilio ac yn wir ddisodli hawliau dynol a'r fframweithiau sy'n sylfaen iddynt. Rwyf wedi sôn mewn dadl ddiweddar ar ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol 1998 fod yna angen dybryd a chlir i geisio datganoli cyfrifoldebau cydraddoldeb a hawliau dynol i Gymru o'r diwedd. Mae'n amlwg bod consensws eang a chadarn ynghylch dulliau o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, nad yw'n ymddangos yn bosibl ei gyflawni dan awdurdod San Steffan. Yn hytrach, mae hawliau dynol yn cael eu herio gan Lywodraeth sydd am ddatgymalu'r Ddeddf Hawliau Dynol, gan eu bod yn credu bod budd y cyhoedd wedi'i beryglu drwy ehangu hawliau—y gwrthwyneb, wrth gwrs, sy'n wir. Ac mae adroddiad y comisiwn a'u gwaith hanfodol wrth warchod cydraddoldeb yng Nghymru yn amlinellu hynny yn gwbl eglur. Mae'n anochel y byddai peidio â gweithredu ar fyrder i greu mesur hawliau Cymreig yn golygu caniatáu dileu amddiffyniadau'r rhai mwyaf bregus a diamddiffyn yn ein cymdeithas. Felly, hoffwn wybod beth yw'r cynnydd o ran hynny. Mae'r amser i archwilio drosodd. Mae'n amser i weithredu ac mae Plaid Cymru yn cytuno gyda hynny. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:40, 7 Mehefin 2022

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr am yr holl gyfraniadau. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan heddiw. Rwy’n credu bod y ddadl wedi dangos yn glir bwysigrwydd diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar draws ystod eang o faterion, a daw ar ôl tri datganiad sy'n mynd i'r afael â'n hymrwymiadau i weithredu'r cynllun gweithredu gwrth-hiliol, a hefyd, yn wir, cyflwyno'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, sydd i gyd yn berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol. Felly, rwy’n credu bod tynnu sylw at rôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y dadleuon hyn yn bwysig iawn. Yn amlwg, mae COVID yn golygu ein bod yn dal i fyny â rhai o'r adroddiadau. Mae'r atebolrwydd yn hollbwysig, nid yn unig o ran ein hymateb i'r adroddiadau fel Llywodraeth Cymru, ond hefyd i graffu ar waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Felly, rwyf eisoes wedi nodi meysydd polisi lle'r ydym ni wedi gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol ac i greu effaith, oherwydd, yn amlwg, rydym ni’n delio â meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli o ran y materion polisi hynny. Felly, mae'r adroddiad effaith wedi bod yn bwysig i ni, ac mi fyddwn i’n dweud fod gennym ni berthynas gref a chadarnhaol iawn â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac rydym ni dal yn ddiolchgar am y canllawiau wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth. Rwy’n gweithio'n agos iawn—rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â Ruth Coombs, pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac rwyf i eisiau diolch eto i'r tîm am yr holl waith, a hefyd i swyddogion sy'n gweithio ar amrywiaeth o waith, ac rwyf wedi sôn am y gwaith o ran cryfhau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru a chyflwyno a gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y Comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol yn cadw presenoldeb cryf a phendant yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn gyfnod digynsail ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU; mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn bwysicach nag erioed.

Hoffwn wneud sylw am un neu ddau o'r pwyntiau a godwyd gan Altaf Hussain a Sioned Williams, yn enwedig mewn perthynas â phobl hŷn. Roeddwn i’n falch iawn o allu cwrdd â'r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn, dan gadeiryddiaeth Mike Hedges heddiw, lle cefais siarad ychydig am y ffordd roeddem ni wedi ymateb i'w barn am y ffaith bod angen i ni gael ffrwd waith benodol ar bobl hŷn yn y strategaeth newydd, cam nesaf y strategaeth trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a thrais rhywiol. Roeddem ni wedi dysgu hynny o gydweithio, drwy ddylanwad y grŵp trawsbleidiol a'i aelodau, ond hefyd drwy weithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac Age Cymru i fonitro'n benodol, er enghraifft, effaith y pandemig ar bobl hŷn. Ond hefyd mae'r comisiynydd pobl hŷn yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae sgyrsiau diweddar wedi canolbwyntio ar hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal a dysgu gwersi i sicrhau bod gennym ni ddull sy'n seiliedig ar hawliau gyda strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio.

Rwy’n credu bod meysydd lle mae gennym ni bryderon enfawr yr hoffem ni i'r Comisiwn fynd i'r afael â nhw, er enghraifft, byddwn i’n dweud eithrio menywod mudol rhag cael eu hamddiffyn yn erbyn cam-drin. Byddwn yn disgwyl i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gytuno â mi nad yw'n ddigon i Lywodraeth y DU fabwysiadu protocolau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod—CEDAW—sydd wedi'u codi yn y Siambr hon fwy nag unwaith, os caiff rhai o'r menywod mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau eu heithrio'n fwriadol o'r diogelwch mae'n ei ddarparu. Mae'n dod â ni'n ôl, yn olaf, at ein hymrwymiadau rhyngwladol a'n henw da mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol.

Sioned Williams, rydych chi’n nodi'r meysydd hynny sydd wedi cael effaith enfawr o ran pob nodwedd warchodedig a chydraddoldeb a hawliau dynol, effaith newid yn yr hinsawdd a chyni. Ar hyn o bryd rydym ni’n aros i Lywodraeth y DU gyhoeddi manylion y bil hawliau, y mae'n bwriadu disodli Deddf Hawliau Dynol 1998 ag ef. Oni bai eu bod nhw’n wahanol iawn i'r rhai a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar, nad ydym yn ei ddisgwyl yn anffodus, bydd hyn yn gam yn ôl a fydd yn anfon yr holl arwyddion anghywir i gyfundrefnau atchweliadol a gormesol ledled y byd. Yn y cyd-destun hwn, yn olaf, Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sefyll dros egwyddorion mwyaf sylfaenol cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb yng Nghymru a'u diogelu. Mae'n hanfodol. Rhaid i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gael presenoldeb cryf ac annibynnol yng Nghymru. Rydym ni’n edrych ymlaen at gwrdd â'r comisiynydd newydd. Mae angen iddyn nhw barhau i roi tystiolaeth ddiduedd i ni. Mae gennym ni ein huned dystiolaeth cydraddoldeb newydd. Mae yn ei lle, mae penodiadau wedi'u gwneud—rwy’n falch iawn o allu tawelu meddwl Sioned o'r pwynt hwnnw. Ei nod yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig. Bydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyfan gyda pholisïau mwy gwybodus, ac rydym ni wedi datblygu cynllun tystiolaeth strategol drafft sy'n disgrifio cwmpas, cylch gwaith a blaenoriaethau, a byddwn ni’n cyhoeddi hynny yn ystod yr haf hwn. Felly, rwy’n falch ein bod ni wedi gallu egluro hynny y prynhawn yma.

Oes, mae’n rhaid i'r Comisiwn fod â phresenoldeb cryf ac annibynnol. Mae'n rhaid iddo barhau i ddarparu'r dystiolaeth ddiduedd rydym ni ei hangen i gefnogi ein cynlluniau a'n gweithgarwch. Rwyf wedi cyfeirio at feysydd lle rwy’n credu y dylent sefyll a chefnogi'r safiad rydym ni wedi'i wneud o ran cynnal a chryfhau a hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb. Rhaid i ni sicrhau bod hawliau pobl Cymru'n cael eu cynnal, ac rwy’n obeithiol y bydd pob Aelod yn ymuno â mi, gan weithio gyda'i gilydd i wella cydraddoldeb ledled Cymru o bob math. A gaf i ddweud, y prynhawn yma, pan ydym ni wedi cael y thema hon o gydraddoldeb, yn enwedig canolbwyntio ar wrth-hiliaeth, ei fod wedi bod yn bwerus? Ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi chwarae eu rhan i wneud y digwyddiad hwn mor bwysig, a'r ddadl hon. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 7 Mehefin 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Mae hynny'n golygu nad oes pleidlais y prynhawn yma.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:47.