Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Prif Weinidog. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, codais yn y Siambr hon gyflwr ofnadwy'r ffordd gywilyddus i unman yn fy etholaeth i—darn o dir sydd wedi cael ei ddifetha gan dipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol, gyda 100 tunnell o sbwriel yn ymestyn cyn belled ag y gellir gweld. Rwyf i mor falch o ddweud ein bod ni wedi symud ymlaen ers hynny, yn dilyn gwaith gwych gan Gyngor Dinas Casnewydd a gwirfoddolwyr lleol. Mae'r tir bellach yn glir o'r sbwriel ac mewn gwirionedd yn cael ei adennill gan y gymuned. Drwy ymroddiad ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr lleol hynny, yn enwedig yr ymgyrchwyr arbennig Sue Colwill, Caroline Antoniou a Helena Antoniou, maen nhw bellach yn gweddnewid y ffordd i unman i fod yn ffordd i natur. Maen nhw'n ymdrechu yn ddiflino i wella ffyrdd mynediad a llwybrau troed, gan weithio ochr yn ochr â'r cyngor a grwpiau cadwraeth, fel Buglife Cymru ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, i droi'r ardal hon yn warchodfa natur y gall pawb ei mwynhau. Mae'r gweddnewid hwn yn ymgorffori cymaint o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i'w wneud o ran bioamrywiaeth, yr argyfwng hinsawdd a mannau gwyrdd, ond nid yw wedi bod yn broses hawdd o gwbl i'r rhai dan sylw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hwyluso'r broses pryd y gall cymunedau lleol adennill tir at ddefnydd gwyrdd, ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi ar ymweliad â'r ffordd i natur, fel y gall weld drosto'i hun y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud, ac i gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ymroddedig hynny?