1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2022.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mannau gwyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58154
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu dros 300 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae 22 ohonyn nhw wedi cael eu datblygu yng Nghasnewydd, gan gynnwys y gwaith, y gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd ag ef, a wnaed yn rhandiroedd cymunedol Pilgwenlli.
Diolch, Prif Weinidog. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, codais yn y Siambr hon gyflwr ofnadwy'r ffordd gywilyddus i unman yn fy etholaeth i—darn o dir sydd wedi cael ei ddifetha gan dipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol, gyda 100 tunnell o sbwriel yn ymestyn cyn belled ag y gellir gweld. Rwyf i mor falch o ddweud ein bod ni wedi symud ymlaen ers hynny, yn dilyn gwaith gwych gan Gyngor Dinas Casnewydd a gwirfoddolwyr lleol. Mae'r tir bellach yn glir o'r sbwriel ac mewn gwirionedd yn cael ei adennill gan y gymuned. Drwy ymroddiad ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr lleol hynny, yn enwedig yr ymgyrchwyr arbennig Sue Colwill, Caroline Antoniou a Helena Antoniou, maen nhw bellach yn gweddnewid y ffordd i unman i fod yn ffordd i natur. Maen nhw'n ymdrechu yn ddiflino i wella ffyrdd mynediad a llwybrau troed, gan weithio ochr yn ochr â'r cyngor a grwpiau cadwraeth, fel Buglife Cymru ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, i droi'r ardal hon yn warchodfa natur y gall pawb ei mwynhau. Mae'r gweddnewid hwn yn ymgorffori cymaint o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i'w wneud o ran bioamrywiaeth, yr argyfwng hinsawdd a mannau gwyrdd, ond nid yw wedi bod yn broses hawdd o gwbl i'r rhai dan sylw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hwyluso'r broses pryd y gall cymunedau lleol adennill tir at ddefnydd gwyrdd, ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi ar ymweliad â'r ffordd i natur, fel y gall weld drosto'i hun y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud, ac i gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ymroddedig hynny?
Llywydd, diolch i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cofio ei chyfraniad yr adeg honno, oherwydd, fel yr wyf i'n ei gofio, roedd yng nghyd-destun y pwerau newydd a oedd yn cael eu darparu i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon—cynigion a gyflwynwyd gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths. A gwn, wrth droi'r ffordd i unman yn ffordd i natur, fod y pwerau hynny wedi cael eu defnyddio gan gyngor Casnewydd a chan y gweithredwyr cymunedol lleol hynny sydd wedi gwneud cymaint i weddnewid yr hyn a oedd yn falltod arbennig ar dirwedd y rhan honno o Gasnewydd. Rwyf i wedi gweld lluniau yn ddiweddar fy hun a gyhoeddwyd gan grŵp y gwaith gweddnewid, yn dangos sut olwg oedd ar y lle cyn iddyn nhw ddechrau gweithio, gan ddangos y mannau gwyrdd gwych sy'n cael eu darparu nawr, tynnu sylw at y gwaith y mae'r cyngor yn ei wneud i ddarparu mwy o fynediad at y ffordd, fel y gall pobl ei mwynhau nawr. Byddwn yn falch iawn o ymuno â Jayne Bryant ar ymweliad â'r safle. Ac wrth feddwl am ei chwestiwn am sut y gallwn ni ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau yn y dyfodol, mae'n ymddangos i mi mai lle da iawn i ddechrau fyddai drwy ddysgu gan y bobl sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun hwn, gan glywed ganddyn nhw am unrhyw rwystrau y gallen nhw fod wedi eu hwynebu, a syniadau a fydd ganddyn nhw ar gyfer sut y gellid gwella hynny yn y dyfodol. Ac edrychaf ymlaen at eu cyfarfod pan ellir trefnu'r ymweliad hwnnw.
Diolch i Jayne Bryant am godi'r mater hwn. Llywydd, er ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n creu mannau gwyrdd newydd i bobl eu mwynhau, mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n diogelu ac yn gwella'r mannau gwyrdd presennol hefyd. Nawr, yn ôl ym mis Mawrth eleni, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer fferm solar fawr ar wastadeddau Gwent. Daeth hyn ar ôl i'r cynlluniau gwreiddiol gael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru, oherwydd eu heffaith bosibl ar yr ardal, sydd wrth gwrs yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Llywydd, rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni angen mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy dibynadwy, ond mae'n rhaid i hyn beidio â dod ar unrhyw gost, a dylai datblygiadau o'r fath, gymaint â phosibl, weithio gyda natur a'r amgylchedd yn hytrach na bod yn niweidiol iddyn nhw o bosibl. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw datblygiadau a phrosiectau seilwaith newydd yn lleihau yn ddiangen faint o fannau gwyrdd sydd ar gael i gymunedau a pha mor hygyrch ydyn nhw? A pha ystyriaeth y mae Gweinidogion wedi ei rhoi i gryfhau rheolau cynllunio i sicrhau bod datblygiadau yn gyfranwyr net at yr amgylchedd naturiol?
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn ychwanegol yna, Llywydd. Gwn fod ganddo arbenigedd ei hun; ef oedd arweinydd Cyngor Sir Fynwy pan greodd y cyngor fferm solar, cynllun yr oedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o'i gefnogi. Felly, gwn y bydd wedi gweld drosto'i hun y cydbwysedd y mae'n rhaid ei sicrhau rhwng datblygiadau ynni adnewyddadwy, sy'n gwbl angenrheidiol, a'u heffaith ar yr amgylchedd lleol.
Mae'n dda iawn, Llywydd, clywed llais ar feinciau'r Ceidwadwyr yma sy'n ceisio gwarchod amgylchedd gwastadeddau Gwent. Nid yw bob amser wedi bod yn bolisi gan y blaid honno, fel y gwyddom. Ond, fel yr ydych chi wedi gweld, a chyfeiriodd Peter Fox at yr enghraifft honno, pryd roedd datblygiad arfaethedig nad oedd y Gweinidog yn teimlo ei fod yn pwyso a mesur ei fanteision a'i anfanteision yn briodol, roedd yn barod i weithredu ac i atal y datblygiadau hynny rhag digwydd. Felly, rhoddaf sicrwydd i'r Aelod bod Llywodraeth Cymru bob amser yn parhau i bwyso a mesur y ffactorau niferus hynny, y rhesymau cadarnhaol pam y gellid rhoi sêl bendith i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a hefyd yr effaith y maen nhw'n ei chael ar yr amgylchedd lleol a'r angen i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw ym mhob achos.