Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Mehefin 2022.
Wel, Llywydd, cyfeiriodd Adam Price at fater yn y fan yna na ddylem ni ei osgoi, a ddylem ni? Wyddoch chi, rydym ni wrth ein bodd y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar, ond ni ddylem ni edrych y ffordd arall oddi wrth yr amheuon a fyddai gennym ni fel cenedl ynghylch rhai o'r materion hawliau dynol hynny yr ydym ni'n eu gweld yno. A phan oedd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn Qatar ym mis Mai, manteisiodd ar y cyfle, fel y nododd yn ei ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd, i godi'r materion hawliau dynol hynny yn uniongyrchol gydag awdurdodau Qatar yng nghyd-destun Cwpan y Byd, ac mae'n rhaid i ni, ein hunain, wneud yn siŵr nad yw'r cyfleoedd hynny yn cael eu methu tra bo llygaid y byd ar y wlad honno.
Yma, un o'r pethau sydd—. Wrth i mi eistedd wrth ymyl y prif weithredwr yn ystod y gêm, dyna ichi ŵr a oedd â siec o £3 miliwn yn y fantol ar sail canlyniad y gêm. Roedd yn gwybod pe bai Cymru yn mynd ymlaen i'r cam nesaf, yna rhan o'r ffordd y caiff Cwpan y Byd ei drefnu yw y byddai £3 miliwn yn cyrraedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a dywedodd wrthyf ei fod yn benderfynol y byddai £2 filiwn o'r £3 miliwn hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad a chyfleusterau llawr gwlad yma yng Nghymru. Roedd yn gwbl bendant wrth ddweud wrthyf i, er mai'r hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wylio, wrth gwrs, oedd y ffenestr siop pêl-droed honno yng Nghymru, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddo ef ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw iechyd y gêm ar y lefel lawr gwlad honno. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, wedi buddsoddi £24 miliwn yn ddiweddar mewn cyfleusterau ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n cytuno yn llwyr ag Adam Price mai'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gael o'r math o sylw ac amlygiad a fydd yng Nghwpan y Byd yw ysbrydoliaeth i bobl ifanc fod allan yno yn chwarae pêl-droed eu hunain, neu'n cymryd rhan ym mha bynnag gamp y maen nhw'n canfod sy'n cyd-fynd â'u doniau a'u galluoedd, a bydd Llywodraeth Cymru yno yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae ein rhan i sicrhau'r cyfleoedd hynny.