1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ymuno â chi i longyfarch tîm pêl-droed Cymru a'r amlygrwydd mawr y bydd yn ei roi i Gymru fel gwlad ar y llwyfan pêl-droed rhyngwladol, a dymuno'n dda i'r tîm pan fydd y pencampwriaethau yn cyrraedd? Yn amlwg, gobeithio, gyda chynllunio, gallwch wneud yn siŵr nad oes unrhyw wrthdaro â busnes y Cyfarfod Llawn, yn enwedig ddiwedd mis Tachwedd.
Prif Weinidog, ddau benwythnos yn ôl, gwelsom anhrefn traffig ac anhrefn teithio yma yn y de gyda digwyddiad Ed Sheeran, a My Chemical Romance, sy'n grŵp, rwy'n deall, yn hytrach na noson allan yng Nghaerdydd ar fy rhan i. Er ein bod ni'n croesawu'r holl weithgarwch hwn yma yn y de, oherwydd bod Caerdydd wedi dod yn ddinas gyrchfan wirioneddol, ni ellir caniatáu i'r anhrefn traffig a theithio a welsom ni dros y penwythnos hwnnw barhau pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn y rhan hon o Gymru. Oherwydd mae'n digwydd mewn digwyddiadau chwaraeon, a nawr rydym ni wedi ei weld yn cael ei chwyddo yn amlwg iawn dros dri diwrnod cyngherddau Ed Sheeran. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ynghylch pa gamau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r tagfeydd traffig hyn fel na fyddwn ni'n gweld hyn yn digwydd eto?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac mae'n sicr yn wir fod torfeydd dau ddigwyddiad mawr yng Nghaerdydd a dechrau'r gwyliau hanner tymor wedi arwain at lawer iawn o draffig i gyd yn ceisio cyrraedd Caerdydd mewn cyfnod cyfyngedig. Pryd bynnag y bydd digwyddiad mawr yn y ddinas, mae tîm o bobl yn cyfarfod wedyn i adolygu'r profiad ac i weld beth arall y gellid ei wneud i naill ai liniaru effaith y traffig mawr hwnnw, neu i ddarparu gwasanaethau ychwanegol. Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n benthyg dau drên gan Northern Trains ar hyn o bryd, yn ogystal â'r trenau CAF newydd y bwriedir iddyn nhw fod mewn gwasanaeth yr haf hwn, er mwyn caniatáu iddyn nhw ddarparu'r capasiti ychwanegol hwnnw pan fydd gennym ni ddigwyddiadau prysur a chyfuniad o wahanol ffactorau sy'n arwain at y math o oedi a welsom dros y penwythnos hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n falch eich bod chi wedi cyflwyno Trafnidiaeth Cymru, oherwydd un o'r prif feirniadaethau oedd y gallu i fynd ar drenau a rhoi gwybodaeth i bobl a oedd yn ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae honno yn un o swyddogaethau eithaf sylfaenol unrhyw weithrediad trafnidiaeth ac nid yw'n costio swm enfawr o arian. Mae'r llif gwybodaeth yn hanfodol i deithwyr ddeall pam maen nhw'n sownd yn y tagfeydd hynny. A ydych chi'n derbyn bod Trafnidiaeth Cymru, y tro hwn, wedi methu? Roeddem ni'n gwybod, yn amlwg, ei bod hi'n ddechrau gŵyl banc y gwanwyn, roeddem ni'n gwybod bod dau ddigwyddiad mawr yn cael eu cynnal, ac eto dylid bod wedi rhoi mwy o bwyslais ar gapasiti, ond hefyd ar roi gwybodaeth i bobl a oedd yn dod i'r ddinas, a gafodd brofiad gwael iawn a dweud y lleiaf, a chafodd y profiadau hyn eu chwyddo ar y cyfryngau darlledu dros benwythnos gŵyl y banc.
Llywydd, rwy'n gwahaniaethu rhwng y ddau bwynt y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud. Rwy'n credu, o ran capasiti, ei bod hi'n wirioneddol anodd disgwyl i gwmni trenau, ag asedau sefydlog a chronfa sefydlog o staff sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny, droi'r tap ymlaen mewn ffordd fawr o amgylch unrhyw fath o ddigwyddiad, ac mae hynny yn arbennig o wir am wasanaethau trên. Yn syml, allwch chi ddim consurio trenau allan o'r awyr am ddiwrnod neu ddau; mae'n rhaid i chi allu eu fforddio nhw drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n rhaid i chi fod â staff sy'n gymwys ac yn gallu darparu gwasanaeth diogel. Felly, rwy'n credu bod hynny yn her wirioneddol a dydw i ddim yn meddwl y gellir beirniadu Trafnidiaeth Cymru am eu hymdrechion i roi'r adnoddau a oedd ar gael iddyn nhw ar waith.
Mae'r hyn yr wyf i'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid yn ei gylch yn ymwneud â gwybodaeth. Mae unrhyw un sydd wedi bod yn sownd mewn unrhyw fath o ddigwyddiad traffig, boed hynny mewn maes awyr neu mewn gorsaf drenau, yn gwybod mai'r un peth sydd ei angen arnoch chi yw gwybodaeth dda am yr hyn sy'n digwydd. A hyd yn oed pan fydd yr wybodaeth honno yn anodd ac yn mynd i ddweud wrthych chi y bydd oedi neu y byddwch yn sownd neu beth bynnag, byddai'n well gennych chi wybod beth rydych chi'n ei wynebu, yn hytrach na theimlo nad oes neb yn gallu dweud wrthych chi beth sy'n digwydd o'ch cwmpas. Felly, mae hwnnw yn bwynt pwysig i Trafnidiaeth Cymru ei gymryd o'r digwyddiad hwnnw. Er nad wyf i'n disgwyl iddyn nhw allu dod o hyd i gapasiti o unman, rwyf i yn disgwyl, pan fydd digwyddiadau o'r math a welsom ni, bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud yn siŵr bod pobl sy'n ceisio teithio yn cael eu hysbysu yn y modd gorau posibl.
Rwy'n derbyn y pwynt ynglŷn â chapasiti, Prif Weinidog, ond roedd yn achos pryd na wnaeth y trenau y bwriadwyd iddyn nhw redeg gyrraedd gorsaf Caerdydd Canolog mewn llawer o achosion. Felly, rwy'n derbyn na allwch chi gonsurio trenau allan o unman, ond ni wnaeth y trenau a oedd fod i redeg ymddangos hyd yn oed ar nosweithiau cyngherddau Ed Sheeran, a waethygodd y broblem pan gynhaliwyd y cyngerdd arall yn y brifddinas.
Ond fe welsom ni hefyd, dros dair noson, y porth i'r de-ddwyrain a'r de-orllewin, twneli Bryn-glas, yn gwneud eu tric arferol o roi 'ar gau ar gyfer busnes', oherwydd bod y traffig wedi pentyrru y tu hwnt i bont Hafren. Nawr, mae gennym ni wahaniaeth polisi yma, Prif Weinidog. Rwy'n credu y dylid adeiladu ffordd liniaru; dydych chi ddim. Rwy'n derbyn mai chi yw'r Llywodraeth a dyna eich penderfyniad, ac mae honno yn ddadl sydd wedi mynd heibio i ni erbyn hyn, ond yr hyn na ellir caniatáu iddo barhau, gan ein bod ni i gyd eisiau gweld prifddinas Caerdydd yn ddinas sy'n gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda phrif ddinasoedd a chyrchfannau Ewrop, yw na ellir dod â thraffig i stop pan fydd digwyddiadau mawr yn digwydd. A ydych chi'n credu bod angen diwygio eich strategaeth drafnidiaeth, fel y gallwn ni ddarparu ar gyfer yr adegau galw brig hyn sy'n amlwg yn effeithio ar y diwydiant cludo nwyddau, yn effeithio ar bobl sy'n mynd ar wyliau a phobl sy'n byw eu bywydau bob dydd, oherwydd ni allwn ni gael yr arwydd 'ar gau ar gyfer busnes' dros y porth i dde Cymru?
Llywydd, bydd arweinydd yr wrthblaid, mi wn, yn deall, hyd yn oed pe bai penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, na fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl dros y penwythnos diwethaf, oherwydd byddai, hyd yn oed o heddiw ymlaen, bum mlynedd arall cyn y gellid agor ffordd o'r fath. Felly, nid yw'n ateb i'r broblem y mae wedi ei nodi. Daw'r ateb gwirioneddol drwy adolygiad cysylltedd yr undeb Llywodraeth y DU. Felly, yr hyn yr wyf i'n edrych ymlaen ato yw cam nesaf yr adolygiad hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu arian ar gyfer cam nesaf yr adolygiad, sef cam datblygu'r adolygiad. Bydd yn gwybod bod Syr Peter Hendy wedi dweud mai hwn oedd un o'r cynlluniau a oedd yn gweddu, yn fwy na bron unrhyw gynllun arall yr oedd wedi ei weld, o fewn y meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth a fyddai'n cynorthwyo teithio drwy wahanol wledydd cydrannol y Deyrnas Unedig. Ac, os gallwn gael yr adolygiad o gysylltedd yr undeb i roi'r buddsoddiad hwnnw yn yr ail reilffordd—y rheilffordd sydd yno ochr yn ochr â'r brif reilffordd bresennol—bydd hynny yn caniatáu i lawer mwy o wasanaethau gael eu rhedeg ar y rheilffyrdd rhwng y de ac ymlaen heibio Bryste i weddill Lloegr. Pe bai honno wedi bod ar gael dros y penwythnos diwethaf, yna rwy'n credu y byddai wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol sylweddol, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn dod o hyd i'r arian i gyd-fynd â'r adroddiad y mae hi ei hun wedi ei gomisiynu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr iawn. Nos Sul yma, roedd rhai ohonom ni, fel y Llywydd, oedd â'r anrhydedd anhygoel i fod yno, ond hefyd y miliynau oedd yn gwylio ar y teledu, wedi gweld hanes yn cael ei ysgrifennu mewn gwirionedd, nid yn unig i bêl droed Cymru, ond, rwy'n credu, ar lefel ehangach i Gymru gyfan. Beth ŷch chi'n meddwl, Prif Weinidog, fydd gwaddol cyrraedd Cwpan y Byd, dim ond am yr eildro erioed, yn ei wneud o ran ein hyder ni fel cenedl? Ac onid yw hi'n profi, gyda'r math hwnnw o ymroddiad ac undod—undod y tîm, y staff, y cefnogwyr, gyda'i gilydd—ein bod ni'n gallu cyflawni unrhyw beth fel cenedl pan ŷn ni'n ffocysu ein meddyliau, ein traed ac efallai, yn achos Wayne Hennessey, ein dwylo arno hefyd? Onid yw Cymru nid yn unig yma o hyd, ond, o ran y genhedlaeth yma, yn barod ac yn hyderus y gallan nhw lwyddo ar unrhyw lwyfan, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol?
Wel, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Braint oedd bod yn y stadiwm ar nos Sul ac roedd y teimlad yn y stadiwm mor gryf y tu ôl i dîm Cymru. Ond nid jest i dîm Cymru, y parch roedd pobl yn ei ddangos at bobl oedd yno i gefnogi Wcráin hefyd, roedd hwnna'n rhywbeth a oedd yn fy nharo i yn eistedd yno yn y stadiwm. Ble roeddwn ni'n eistedd ac o fy nghwmpas i, beth oedd pobl yn siarad amdano, Llywydd, oedd nid jest pêl-droed—wrth gwrs, roedd pêl-droed yn bwysig dros ben—ond beth oedd y tîm a llwyddiant y tîm yn ei ddweud am Gymru heddiw a'r hyder a oedd ganddyn nhw. Ac rŷn ni'n gwybod, dros y blynyddoedd, fel cenedl, rŷn ni wedi, ambell waith, cael diffyg hyder yn ein dyfodol ni, yn ein capasiti ni i wneud penderfyniadau ar bethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Ac rŷn ni wedi gweld dro ar ôl tro timau yn dod jest ar y ffin o fod ar y llwyfan ar lefel y byd, ac ar y foment olaf, roedd hwnna'n cwympo yn ôl. Dyna'r peth pwysig roedd pobl yn siarad amdano yn y stadiwm: y pêl-droed, wrth gwrs, ond y neges roedd y tîm a phopeth oedd yn digwydd yno yn ei rhoi i bobl, yn enwedig pobl ifanc, pobl sy'n tyfu lan yng Nghymru heddiw. Roedd pobl yn cyfeirio at y bobl ifanc yn y tîm, pobl sydd wedi dod drwyddo nawr ac yn chwarae i Gymru, a hwnna yw'r llwyfan sy'n bwysig i ni: llwyfan Cwpan y Byd wrth gwrs, ond llwyfan ehangach na hynny i adeiladu hyder pobl yma yng Nghymru am y dyfodol a beth allwn ni ei wneud pan ŷn ni'n gweithio gyda'n gilydd.
Rwy'n credu bod y ffaith, hyd yn oed ar yr achlysur tyngedfennol hwn, mai'r peth cyntaf a wnaeth chwaraewyr Cymru oedd cysuro chwaraewyr Wcráin a chymeradwyo cefnogwyr Wcráin, rwy'n credu ei fod yn crynhoi'r gorau o'n gwerthoedd Cymreig o dosturi a rhyngwladoldeb.
Byddai'r prif weithredwr, Noel Mooney, pe gallem ni ond botelu'r ynni Celtaidd hwnnw, yn fwy poblogaidd na Guinness. Dywedodd nad y gymdeithas bêl-droed yn unig ydyn nhw, maen nhw'n fudiad, ac mewn cymaint o ffyrdd, maen nhw'n ymgorffori gwerthoedd y Gymru yr ydym ni eisiau ei gweld: modern, dwyieithog, creadigol, cynhwysol. Felly, sut gallwn ni ddefnyddio Cwpan y Byd, gyda'i chynulleidfa fyd-eang ddigyffelyb, i gyfleu'r ddelwedd honno o Gymru? Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru lawer ar eu plât, onid oes, yn enwedig ychydig o gemau y maen nhw eisiau eu hennill yr wythnos hon? Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu tîm gyda phobl o wahanol sectorau i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i Gymru? Cynhaliodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu cyfarfod cyntaf i gynllunio ar gyfer Qatar am 9.00 p.m. nos Sul, ac un arall amser brecwast y bore wedyn. A allwn ni ddangos yr un synnwyr o frys ac ymrwymiad â nhw ar y lefel genedlaethol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn?
Wel, Llywydd, hoffwn ddefnyddio'r agoriad y mae Adam Price wedi ei gynnig i dalu teyrnged eto i'r tîm o Wcráin a'u cefnogwyr yn y maes. Pan feddyliwch chi am gefndir y gêm honno, roedden nhw'n anhygoel o ymroddedig. Ni roddodd y tîm y gorau iddi ar unrhyw adeg, hyd at ddiwedd i'r gêm, ac fe allech chi weld faint yr oedd yn ei olygu iddyn nhw hefyd. Roeddwn i'n credu eu bod nhw'n glod llwyr i'w gwlad.
A dylem ni dalu rhywfaint o deyrnged i Gymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd, o dan arweinyddiaeth Noel Mooney. Mae'n sefydliad sydd wedi'i weddnewid. Y pethau y mae Adam Price newydd eu dweud am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ni fyddech chi bob amser wedi gallu dweud y pethau hynny amdani yn ystod ei hanes, allech chi? Ond, o dan ei phrif weithredwr newydd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweld ei hun yn chwarae mwy o ran ym mywyd cyhoeddus Cymru na dim ond rhedeg timau pêl-droed. A'r pethau y byddwch chi wedi ei glywed yn eu dweud—a chawsoch chi a minnau gyfle i drafod rhai o'r pethau hynny gydag ef nos Sul—rwy'n credu yn llwyr fod hynny yn dangos sefydliad sydd wedi uniaethu ag ysbryd yr oes, sy'n deall bod hon yn adeg iddyn nhw pryd gallan nhw helpu i ymgorffori cyfres o werthoedd pwysig am y math o Gymru y byddem ni i gyd yn dymuno ei gweld. Ac, wrth gwrs, byddwn ni, fel Llywodraeth, yn gweithio ochr yn ochr â nhw a chyda nhw i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae amlygiad Cymru ar y llwyfan cenedlaethol hwnnw—. Gêm gyntaf yn erbyn UDA—wyddoch chi, rwy'n siŵr fy mod i'n cofio'r Arlywydd Trump yn dweud pe bai Joe Biden yn ennill yr etholiad arlywyddol, y byddai UDA yn edrych fel Cymru yn y pen draw. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi chwarae rhan sylweddol ym muddugoliaeth Joe Biden yn yr etholiad hwnnw fy hun. [Chwerthin.] Ond nawr, cawn gyfle i ddangos i bobl ar draws UDA yn union yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.
Mae pêl-droed wedi rhoi'r cyfle anhygoel hwn i Gymru. Mae potensial enfawr yma i ysbrydoli, i gysylltu pobl, i newid bywydau, i weddnewid cymunedau, i adeiladu'r genedl, ond mae'n rhaid i ni fuddsoddi, onid oes, i wneud y gorau o hynny. Bydd diddordeb enfawr mewn pêl-droed ymhlith bechgyn a merched—ac mae angen i ni gefnogi'r tîm menywod i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf hefyd—ac mae angen i ni wneud y mwyaf o'r difidend chwaraeon hwn, sydd, wrth gwrs, yn ddifidend iechyd a llesiant, corfforol a meddyliol. Yn fy nhref enedigol fy hun, Rhydaman, y clwb pêl-droed sy'n ganolog i allgymorth llesiant meddyliol yn dilyn colled drasig un o aelodau ei dîm. Felly, sut ydym ni'n mynd i fuddsoddi, fel cenedl, yn y seilwaith ffisegol, yn seilwaith cymdeithasol clybiau, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y Cwpan y Byd hwn yn gadael etifeddiaeth nid yn unig yn Qatar, gobeithio, o ran hawliau gweithwyr a dynol yno, ond hefyd ym mhob cymuned yng Nghymru ac am genedlaethau i ddod?
Wel, Llywydd, cyfeiriodd Adam Price at fater yn y fan yna na ddylem ni ei osgoi, a ddylem ni? Wyddoch chi, rydym ni wrth ein bodd y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar, ond ni ddylem ni edrych y ffordd arall oddi wrth yr amheuon a fyddai gennym ni fel cenedl ynghylch rhai o'r materion hawliau dynol hynny yr ydym ni'n eu gweld yno. A phan oedd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn Qatar ym mis Mai, manteisiodd ar y cyfle, fel y nododd yn ei ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd, i godi'r materion hawliau dynol hynny yn uniongyrchol gydag awdurdodau Qatar yng nghyd-destun Cwpan y Byd, ac mae'n rhaid i ni, ein hunain, wneud yn siŵr nad yw'r cyfleoedd hynny yn cael eu methu tra bo llygaid y byd ar y wlad honno.
Yma, un o'r pethau sydd—. Wrth i mi eistedd wrth ymyl y prif weithredwr yn ystod y gêm, dyna ichi ŵr a oedd â siec o £3 miliwn yn y fantol ar sail canlyniad y gêm. Roedd yn gwybod pe bai Cymru yn mynd ymlaen i'r cam nesaf, yna rhan o'r ffordd y caiff Cwpan y Byd ei drefnu yw y byddai £3 miliwn yn cyrraedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a dywedodd wrthyf ei fod yn benderfynol y byddai £2 filiwn o'r £3 miliwn hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad a chyfleusterau llawr gwlad yma yng Nghymru. Roedd yn gwbl bendant wrth ddweud wrthyf i, er mai'r hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wylio, wrth gwrs, oedd y ffenestr siop pêl-droed honno yng Nghymru, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddo ef ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw iechyd y gêm ar y lefel lawr gwlad honno. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, wedi buddsoddi £24 miliwn yn ddiweddar mewn cyfleusterau ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n cytuno yn llwyr ag Adam Price mai'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gael o'r math o sylw ac amlygiad a fydd yng Nghwpan y Byd yw ysbrydoliaeth i bobl ifanc fod allan yno yn chwarae pêl-droed eu hunain, neu'n cymryd rhan ym mha bynnag gamp y maen nhw'n canfod sy'n cyd-fynd â'u doniau a'u galluoedd, a bydd Llywodraeth Cymru yno yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae ein rhan i sicrhau'r cyfleoedd hynny.