Cynnwys Pobl Drawsryweddol mewn Chwaraeon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:59, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, sefydlwyd Chwaraeon Cymru drwy siarter frenhinol ar 4 Chwefror 1972. Ers 1999, y sefydliad hwnnw, yn hytrach na chyrff y DU, sydd wedi bod yn gyfrifol am bolisi cynhwysiant mewn chwaraeon yng Nghymru. Serch hynny, mae'r cyngor yn gweithio gyda sefydliadau chwaraeon eraill a, gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw gyhoeddi cyngor ar y cyd ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon domestig ym mis Medi y llynedd.