Cynlluniau Amddiffyn Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol i ddargyfeirio achosion yn ddiogel o'r gofrestr amddiffyn plant gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â byrddau diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chydag awdurdodau lleol eu hunain, i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru.