1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Mehefin 2022.
Prynhawn da, Brif Weinidog.
4. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r nifer cynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant? OQ58156
Rydym ni'n darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol i ddargyfeirio achosion yn ddiogel o'r gofrestr amddiffyn plant gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â byrddau diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chydag awdurdodau lleol eu hunain, i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn fynegi yn gyntaf fy niolch i bawb sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio, ac sy'n parhau i weithio, yn ddiflino i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn enwedig drwy gydol y pandemig. Ond hoffwn godi eto yr angen, yn fy marn i, am ymchwiliad annibynnol yn dilyn marwolaeth ofnadwy, drasig Logan Mwangi, gan edrych ar ein gwasanaethau cymdeithasol i blant ledled Cymru. Mae hyn yn digwydd yn Lloegr, yn dilyn marwolaethau ofnadwy Arthur Labinjo-Hughes, a oedd yn chwech oed, a Star Hobson, a oedd yn flwydd oed. Mae awdur yr ymchwiliad annibynnol yn Lloegr wedi dweud y byddai methu â mynd i'r afael â phroblemau mawr mewn gwasanaethau i blant yn arwain at y nifer uchaf erioed o bobl ifanc mewn gofal. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae mwy o blant mewn gofal yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban, ac mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o fynd i ofal na'u cymheiriaid yn Lloegr neu'r Alban. A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ystyried bod plant a theuluoedd yng Nghymru, a'r gweithlu, yn haeddu'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn yr Alban ac yn Lloegr drwy ymchwiliad annibynnol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n gwneud cyfres o bwyntiau sy'n sicr yn haeddu cael eu hystyried yn ofalus. Rwyf i wedi dweud droeon ar lawr y Senedd bod y gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru yn anghynaladwy a bod y bwlch rhwng y gyfradd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cymryd i ofal cyhoeddus yn parhau i gyflymu oddi wrth y gyfradd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Y canlyniad yw, a dyma'r rheswm pam mae'n anghynaliadwy, bod awdurdodau lleol yn canfod bod yr holl arian sydd ganddyn nhw ar gyfer gwasanaethau plant yn cael ei ddefnyddio i ofalu am blant y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb uniongyrchol amdanyn nhw bellach a does dim byd ar ôl i helpu teuluoedd trwy gyfnodau anodd pan allai ychydig o fuddsoddiad mewn gwaith ataliol fod wedi helpu'r teuluoedd hynny i aros gyda'i gilydd.
O ran mater penodol ymchwiliad arall, yn sicr nid wyf i'n credu mai dyma'r adeg i gomisiynu ymchwiliad o'r fath. Yn yr achos y tynnodd yr Aelod sylw ato o Ben-y-bont ar Ogwr, nid yw'r adolygiad achos difrifol wedi adrodd o hyd. Ceir achosion eraill yng Nghymru gerbron y llysoedd o hyd lle nad yw gwrandawiadau llys wedi'u dirwyn i ben eto. Felly, nid wyf i'n credu mai dyma'r adeg i wneud penderfyniad am ymchwiliad o'r math y mae Jane Dodds wedi ei argymell, ac rwy'n credu y byddai cwestiynau pwysig eraill y byddai angen i ni eu hystyried hefyd.
A ydym ni'n brin o gyngor, Llywydd? Yn 2018, cawsom yr adolygiad o'r argyfwng gofal yma yng Nghymru. Yn 2019, cawsom adroddiad 'Born into care Wales' Sefydliad Nuffield. Yn 2020, cawsom adroddiad y gweithgor cyfraith gyhoeddus ar y ffordd y gellir gwella achosion cyfraith gyhoeddus yng Nghymru. Y llynedd, cawsom adroddiad etifeddiaeth grŵp cynghori'r gweinidog ar wella canlyniadau i blant a gadeiriwyd gan David Melding, ac eleni rydym ni wedi parhau i dderbyn adroddiadau thematig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar blant sy'n derbyn gofal. Nid yw hwn yn faes lle gallai unrhyw un ddadlau ein bod ni'n brin o gyngor annibynnol sydd wedi edrych ar draws yr holl dirwedd ymarfer yma yng Nghymru.
A ydym ni'n hyderus, Llywydd, ynghylch yr hyn y gallem ni ei ddysgu o'r ymdrech enfawr y byddai'n rhaid ei gwneud ar gyfer ymchwiliad o'r math a fyddai'n gwneud cyfiawnder â'r pwyntiau y mae Jane Dodds wedi eu codi? Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff yn y gweithlu hwn. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn atal ac isgyfeirio yn y system. Rydym ni'n gwybod bod gweithio rhanbarthol yn elfen bwysig yn yr ateb i'r heriau y mae gwasanaethau plant yn eu hwynebu heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar bobl sy'n dadlau dros ymchwiliad cyhoeddus i fynegi lle maen nhw'n credu y gellir canfod y bylchau yn ein gwybodaeth a lle maen nhw'n credu y byddem ni'n dysgu rhywbeth nad ydym ni eisoes yn ei wybod am yr her sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny a'r atebion sydd eisoes wedi cael eu llunio i ymateb i'r heriau hynny.
Prif Weinidog, gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y plant ar gofrestr amddiffyn hyd yn oed cyn y pandemig, felly Duw a ŵyr sut mae'r sefyllfa nawr mewn gwirionedd. Oherwydd rydym ni'n gwybod bod y gwasanaethau cymdeithasol o dan straen aruthrol, yn brin o staff ac yn gorweithio, dydyn ni wir ddim yn gwybod beth sy'n cael ei fethu neu pwy sy'n cael ei fethu. Rydym ni'n gwybod bod gofal cymdeithasol plant yng Nghymru mewn argyfwng. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, ond geiriau'r Athro Donald Forrester, cyfarwyddwr CASCADE ac arbenigwr yn y maes. Mae ef a llawer o gyd-Aelodau eraill, ochr yn ochr â ni yn y Siambr, yn galw am adolygiad brys o wasanaethau cymdeithasol plant. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi wrando nawr ar y cyngor a gwrando ar y galwadau am adolygiad annibynnol llawn o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, yn union fel y mae pob gwlad arall yn ei wneud? Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn ei wneud. Oherwydd allwn ni ddim parhau i gladdu ein pennau yn y tywod a gwneud dim tan fod plentyn arall yn marw o gamdriniaeth neu esgeulustod. Diolch.
Pe bai'r Aelod wedi bod yn gwrando ar fy ateb blaenorol, byddai wedi clywed yr ateb i'w gwestiwn. Os ydym ni'n mynd i gael ymchwiliad, yna byddai'n ddefnyddiol, oni fyddai, i sefydlu rhywfaint o gywirdeb sylfaenol yn y ffeithiau y mae pobl yn eu cyflwyno. Nid yw'n wir o gwbl, Llywydd, fel yr awgrymodd yr Aelod, bod nifer y plant ar gofrestrau amddiffyn plant yn cynyddu yng Nghymru yn y cyfnod cyn y pandemig. A dweud y gwir, y gwrthwyneb yw'r gwir mewn gwirionedd. Byddai'n helpu ychydig, oni fyddai, pe bai pobl yn mynd i'r drafferth i ganfod ychydig o ffeithiau sylfaenol cyn iddyn nhw gynnig eu barn i ni, oherwydd roedd y niferoedd yn lleihau, nid yn cynyddu. Dyna'r gwir amdani. Mae'r niferoedd wedi gwella ar ôl y pandemig i le'r oedden nhw cyn i'r pandemig ddechrau. Felly, pan gyfeiriodd Jane Dodds at y nifer gynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant, roedd yn cyfeirio at adferiad yn y niferoedd hynny. Nid yw'r nifer yn uwch heddiw na lle yr oedd cyn y pandemig. Felly, os ydym ni'n mynd i gael ymchwiliad, yna rwy'n meddwl y byddai ychydig mwy o olau ac ychydig yn llai o wres fwy na thebyg yn helpu i'w wneud yn ymarfer gwerth chweil.