Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch i Heledd Fychan. Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Yn ogystal â'i gyllid craidd ar gyfer iechyd meddwl, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael £3.3 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol ar gyfer gwasanaethau eleni, er mwyn buddsoddi mewn gwell darpariaeth iechyd meddwl.