3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:40, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Bil yn cyflawni ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu i roi sail statudol yng Nghymru i bartneriaeth gymdeithasol. Mae'n darparu ar gyfer fframwaith i wella llesiant pobl Cymru, yn cynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chynnal caffael cyhoeddus sy'n arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol.

Mae'r Bil yn sefydlu cyngor partneriaeth gymdeithasol i Gymru, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr y Llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr a enwebwyd gan Gyngres Undebau Llafur Cymru. Swyddogaeth y cyngor fydd cynnig gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru o ran dyletswyddau'r bartneriaeth gymdeithasol, yr ymgais i gyrraedd nod llesiant 'Cymru lewyrchus' gan gyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau o ran caffael cyhoeddus sy'n arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu hefyd ar gyfer sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol.

Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd newydd o ran partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol ac ar Weinidogion Cymru. Fe fydd hi'n ofynnol i rai cyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig, neu, os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, gyda chynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion o ran llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddyletswydd hon yn mynd y tu hwnt i ofyniad syml i ymgynghori. Yn ei sgil, rydym ni'n disgwyl i gyrff cyhoeddus ymgysylltu yn weithredol â'u hundebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill fel partneriaid gwirioneddol wrth bennu a chyflawni eu hamcanion o ran llesiant. Fe fydd yna ddyletswydd ar wahân ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion o ran llesiant yn unol ag adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015.

Mae'r Bil yn diwygio adran 4 Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy ddisodli 'waith addas' gyda 'waith teg' o fewn nod cyfredol 'Cymru lewyrchus'. Nôl yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion o ran hyrwyddo ac annog gwaith teg. Roedd adroddiad y comisiwn, 'Gwaith Teg Cymru', a gyhoeddwyd yn 2019, yn argymell y dylai'r camau gweithredu gan gyrff cyhoeddus yn unol â Deddf 2015 gynnwys gwaith teg.

Mae'r Bil yn pennu dyletswydd hefyd o ran caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Caiff bron i £7 biliwn o arian cyhoeddus ei wario drwy gaffael yng Nghymru bob blwyddyn. Yn unol â'r ddyletswydd newydd, fe fydd hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig ystyried caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wrth gaffael, a phennu amcanion o ran nodau llesiant, a chyhoeddi strategaeth gaffael hefyd. Fe fydd hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau wrth reoli contractau i sicrhau bod canlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu ceisio drwy gadwyni cyflenwi. Yn olaf, mae'r Bil yn rhoi dyletswyddau ar y cyrff cyhoeddus perthnasol a Gweinidogion Cymru i adrodd o ran y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a'r ddyletswydd gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Fel y dywedais i yn fy natganiad i'r Senedd ar 14 o fis Medi'r llynedd, mae'r Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghoriad eang. Yn hollbwysig, fe gafodd hwn ei baratoi mewn cydweithrediad â'n partneriaid cymdeithasol ni hefyd. Drwy eu cymorth nhw, eu cyngor doeth nhw a'u her nhw o bryd i'w gilydd, rwy'n hyderus bod y Bil a gyflwynir i'r Senedd heddiw yn gam ymlaen sy'n uchelgeisiol ond yn ymarferol hefyd tuag at bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn cyfrannu yn sylweddol at gyflawni ein nodau llesiant ni.

Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn newydd ac yn sicr nid yw hynny'n unigryw i Gymru. Er hynny, mae partneriaeth gymdeithasol wedi esblygu i fod yn ffordd Gymreig o weithio ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r ffordd hon o weithio wedi arddangos manteision eglur iawn i weithwyr, cyflogwyr a'r Llywodraeth fel ei gilydd, gan ein bod ni, gyda'n gilydd, wedi ceisio rheoli effaith pandemig COVID a chadw pobl Cymru yn ddiogel.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i'r ffordd hon o weithio, ac rydym ni'n awyddus i ddiogelu partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol elwa nid yn unig ar well llesiant, ond fod â gwasanaethau cyhoeddus cydnerth a chynaliadwy hefyd sy'n seiliedig ar ddull partneriaeth gymdeithasol. Bydd y fframwaith a sefydlir gan y Bil yn helpu partneriaid cymdeithasol i weithio gyda'i gilydd yn well i gyflawni'r nodau llesiant a gynhwysir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Nod y Bil yw gwneud Cymru yn lle gwell, tecach a mwy llewyrchus i fyw a gweithio ynddo. Bwriad y mecanweithiau yn y Bil yw helpu i uno Llywodraeth, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn gweledigaeth gyffredin—sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach a mwy cyfartal gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog, iaith Gymraeg ffyniannus, a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae'r Bil yn adeiladu ar hanes a llwyddiant helaeth gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru eisoes. Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wrth i'r ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi, ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Phlaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, ynglŷn â'r ffordd i ni wneud yn fawr o effaith y ddeddfwriaeth newydd hon.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau Aelodau'r Senedd heddiw ac wrth fwrw ymlaen â'r Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).