3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 2:45, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac am gyflwyno'r Bil hwn. Er hynny, er gwaethaf eich ymdrechion, rwyf i o'r farn fod yna bwyntiau sylweddol sy'n codi problemau ynddo. Yn gyntaf, mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol a gynigir yn debygol o gydgrynhoi'r mecanweithiau partneriaeth gymdeithasol presennol ar sail statudol yn unig, gan gymeradwyo'r sefyllfa bresennol a diddymu'r ysgogiad i wella gwaith teg drwy gadwyni cyflenwi.

Yn ail, mae dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus ar hyn o bryd i amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ac felly'r hyn y bydd y Bil hwn yn ei wneud yw cynyddu'r baich sydd ar gyrff cyhoeddus o ran rheoleiddio. Ac fe fydd honno'n broblem, gan y bydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl pob tebyg, yn mynd i drafferthion wrth weithredu'r rheoliadau ychwanegol. Rydym ni wedi clywed yn y Siambr hon fod 5 y cant o gyrff cyhoeddus yn parhau i fynegi nad ydyn nhw erioed wedi clywed am bolisi blaenllaw'r Llywodraeth hon sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae llawer mwy wedi cael trafferth wrth gyflawni ei gofynion hi. Felly, rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog pam mae'r Llywodraeth hon o'r farn y bydd y Bil hwn yn achosi gwelliant yng ngwaith caffael cyrff cyhoeddus, pan na all cyrff cyhoeddus, gyda chymorth y Llywodraeth hon a'r comisiynydd, weithredu'r holl reoliadau sydd wedi bod ar waith ers bron i 10 mlynedd.

Yn drydydd, rwyf i o'r farn nad oes yna ddigon o dystiolaeth fesuradwy y bydd y Bil hwn yn dod ag unrhyw fanteision sylweddol i waith teg mewn cadwyni cyflenwi, oherwydd fe gaiff ei seilio yn llwyr ar ffydd y bydd yna effaith gadarnhaol. Fel gwyddoch chi, Dirprwy Weinidog, ni ddaeth ymdrechion blaenorol i gynyddu effaith gymdeithasol caffael, fel prosiect cronfa gymdeithasol Ewrop, ag unrhyw dystiolaeth bendant o ganlyniadau cadarnhaol i economïau lleol nac o ran arferion gwaith teg. Dirprwy Lywydd, y sefyllfa orau y gall y Bil hwn obeithio amdani yw bod contractau caffael cyhoeddus yn sicrhau arferion gwaith teg yn y meysydd hynny lle caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael ar hyn o bryd, sy'n ymdrech weddol gyfyngedig o ystyried bod gan y cyrff cyhoeddus fodd i wneud felly eisoes, ac, ar y cyfan, maen nhw yn gwneud felly eisoes. At hynny, ni fydd y Bil hwn yn gallu mynd i'r afael ag arferion gwaith annheg mewn ardaloedd y tu allan i gadwyni cyflenwi cyhoeddus, sef lle mae angen y cymorth fwyaf.

Felly, tybed, Dirprwy Lywydd, beth yw diben gwirioneddol cyflwyno Bil fel hyn. Rwyf i o'r farn mai diben y Llywodraeth hon ar gyfer y Bil yw ar gyfer cynyddu grym yr undebau llafur drwy roi llais cyfartal iddyn nhw o ran contractau caffael cyhoeddus, sy'n sefyllfa beryglus i fod ynddi hi, oherwydd fe fydd hynny'n golygu y bydd undebau llafur yn gallu atal neu arafu caffael cyhoeddus nawr yn ôl eu mympwy a rhwystro cyrff cyhoeddus ac, i bob pwrpas, yn gallu dal cyrff cyhoeddus am bridwerth drwy atal ymgynghoriad ar gytundebau caffael hyd nes i'w gofynion gael eu bodloni. Fe fydd hyn yn heriol i gyrff cyhoeddus pan fo unrhyw anghydfod, gan y bydd gan undebau llafur fwy fyth o ddylanwad nawr i atal cyrff cyhoeddus rhag gwneud eu gwaith.

Ar bwynt arall, mae'n rhaid i ni gofio nad yw undebau llafur yn gwbl anllygredig. Fel gwyddom ni, mae Unite, cefnogwr mwyaf y Blaid Lafur, yn ymchwilio i weithwyr am lwgrwobrwyo, twyll a gwyngalchu arian, ac mae rhai o safleoedd Unite, gan gynnwys y pencadlys, wedi gweld nifer o heddluoedd yn mynd i mewn ac yn cipio tystiolaeth oherwydd ymchwiliadau cyfredol. Dirprwy Lywydd, nid gorddweud yw mynegi y gallai Bil y Llywodraeth hon weld swyddogion undebau llafur llwgr yn cael arian gan ddarpar gyflenwyr i ennill lleoedd ffafriol ar flaen y ciw ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, yn ogystal â gallu bwlio a gorfodi cyflenwyr i fodloni eu gofynion penodol nhw eu hunain, gan roi cefnau cyflenwyr yn erbyn y wal gyda bygythiadau o golli contractau os nad ydyn nhw'n cydymffurfio. Fe allai hyn greu'r sefyllfa hyd yn oed o undebau llafur yn cael cyfraniadau hael at eu hymgyrchoedd nhw gan gwmnïau a fyddai'n awyddus i ennill cytundebau caffael cyhoeddus gwerthfawr.

Yn drydydd, gan y bydd yn rhaid i undebau llafur graffu ar gadwyni caffael cyhoeddus nawr, fe fydd hynny'n golygu y bydd angen mwy na dim ond taliadau am amser cyfleusterau. Bydd angen personél gyda'r hyfforddiant priodol ar yr undebau llafur, ac fe fydd angen talu yn iawn am eu hamser nhw, oherwydd, Dirprwy Weinidog, ni allwch chi ddim disgwyl i undebau llafur graffu ar waith teg ac arferion cyflog teg heb iddyn nhw gael cyflog teg yn gyfnewid am hynny. Felly, yn ddi-os, mae'n rhaid i undebau llafur gael arian cyhoeddus, ar ryw adeg, i gyflawni'r dyletswyddau hyn o ran rheoleiddio hyn. Ac, i'r Aelodau hynny o Blaid Cymru sydd am gefnogi'r Bil hwn, mae angen i chi fod yn ymwybodol iawn y bydd y Bil hwn yn y pen draw yn dodi arian cyhoeddus yng nghoffrau'r undebau llafur, a fydd yn rhoi mwy o arian i'r Blaid Lafur wedyn, sy'n sicr yn achos gwrthdaro buddiannau.

Yn sicr, Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg iawn y byddai corff annibynnol sy'n gallu cyflogi'r bobl orau heb unrhyw ymlyniad gwleidyddol, a heb dalu cyfraniadau i'r Blaid Lafur, mewn sefyllfa well o lawer i graffu ar gytundebau i sicrhau cyflog teg ac amodau gwaith teg. Ac fe allai adrodd yn ôl i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ac fe ellid gwneud y penderfyniadau priodol wedyn. Rwyf i'n dadlau, o ystyried yr holl bwyntiau a wnes i, mai ychydig iawn o sail sydd yna i undebau llafur fod yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon o ran y contractau caffael cyhoeddus. I gloi, fe hoffwn i ddweud bod sicrhau gwaith teg drwy'r cadwyni cyflenwi yn gam cadarnhaol tu hwnt. Serch hynny, mae'r gyfundrefn bresennol yn caniatáu hynny eisoes. Mae deddfwriaeth gan y Llywodraeth hon yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus eisoes i adolygu amodau gwaith priodol a chyflog teg drwy'r cadwyni cyflenwi. Felly, yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn deillio o ddrwgdybiaeth y Llywodraeth hon o gyrff cyhoeddus a'u gallu nhw i adolygu eu cadwyni cyflenwi eu hunain yn effeithiol, yn ogystal ag awydd y Blaid Lafur i roi caffael cyhoeddus yng nghrafangau'r undebau llafur yng Nghymru. [Torri ar draws.]