Part of the debate – Senedd Cymru am 7:35 pm ar 8 Mehefin 2022.
Daw hyn â mi at fy ail bwynt, Deddf BSL. Roeddwn i, fel llawer o rai eraill, yn falch iawn o weld bod Bil BSL Llywodraeth y DU wedi cael Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ebrill eleni, gan ddod i rym fel Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022. I'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Ddeddf, ceir cydnabyddiaeth yn awr i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Er bod hon yn garreg filltir enfawr i bobl fyddar, nid yw'r sefyllfa gystal ag y dylai fod yn y gwledydd datganoledig. Yn Lloegr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol y Llywodraeth, a rhaid cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â BSL, sy'n nodi sut y mae'n rhaid i adrannau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddiwallu anghenion pobl fyddar yn y DU. Yn seiliedig ar y nodau hynny, dylai'r Ddeddf wella mynediad at ddehonglwyr, yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth gyffredinol, a helpu i ddatblygu addysg BSL. Dylai hefyd helpu i wella mynediad at gyflogaeth i bobl fyddar. Oherwydd y setliad datganoli, nid yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd adrodd y Ddeddf, ac felly mater i Weinidogion Llywodraeth Cymru yma yn gyfan gwbl yw i ba raddau y gwelwn y budd hwn yng Nghymru. Yn hyn o beth, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y Ddeddf yn ei chyfanrwydd, a chyflawni ei dyletswyddau adrodd llawn, a byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma yn y Siambr yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu'r ymagwedd hon.
Yn fy mhwynt olaf, rwyf am drafod gwasanaethau awdioleg yng Nghymru, a'r rôl a'r effaith bosibl y gall ymarferwyr awdioleg preifat eu cael. Ceir angen digynsail i glirio ôl-groniadau awdioleg yng Nghymru. Mae gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro bron i 1,500 o bobl yn aros am driniaeth, gyda dros 800 wedi aros 14 mis neu fwy am wasanaethau awdioleg y GIG. Mae 5,000 yn rhagor yn aros ledled Cymru am driniaeth fawr ei hangen i allu clywed yn dda eto, ac mae'r ffigurau hyn wedi cynyddu ers y pandemig. Mae'r rhestr aros benodol hon yn arwyddocaol. Er y gellir dweud nad yw colled clyw yn bygwth bywyd yn uniongyrchol, mae'n cael effaith enfawr ar fywydau'r rhai sy'n dioddef, yn enwedig gan fod colled clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn gyffredin iawn yng Nghymru, gydag 1 y cant o'r boblogaeth am bob blwyddyn o oedran yn dioddef—hynny yw, 70 y cant o bobl 70 oed ac 80 y cant o bobl 80 oed ac ati.
Mae effaith colli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn mynd ymhell y tu hwnt i fethu clywed yn dda. Mae'n arwain, yn drasig, at ynysu cymdeithasol, unigrwydd, salwch meddwl, dementia, ac mae'r cyflyrau hyn wedyn yn arwain at broblemau iechyd eraill. Nid yw aros mwy na 14 mis am asesiad a chymhorthion clyw yn fater dibwys os ydych yn 80 oed gyda dirywiad gwybyddol cynyddol. Mae'n eich rhoi mewn sefyllfa fregus iawn, ac mae'n siŵr fod hynny'n wirioneddol frawychus iddynt. Ceir tystiolaeth gref i ddangos bod nam bach ar y clyw yn dyblu'r risg o ddatblygu dementia, mae colled clyw cymedrol yn arwain at dair gwaith y risg, a cholled clyw difrifol yn cynyddu'r risg bum gwaith. Amcangyfrifir mai colled clyw sydd i gyfrif am 8 y cant o achosion o ddementia, yn ogystal â phroblemau iechyd hirdymor eraill. Dros gyfnod o 10 mlynedd, mae gan bobl sydd â cholled clyw risg 47 y cant yn uwch o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd y risg uwch o gwympiadau ac iselder. Yr hyn sy'n sefyll allan ymhellach yw y gellir atal gweithrediad gwybyddol rhag dirywio os ceir diagnosis amserol felly mae'r rhestr aros 14 mis i gael mynediad at wasanaethau awdioleg yn niweidio pobl, heb amheuaeth.
Holais y Prif Weinidog am y pwynt hwn yn ddiweddar, ac er fy mod yn croesawu ei ymateb fod angen cynyddu capasiti gofal sylfaenol, credaf fod y dull un llwybr hwn yn un cibddall, yn anad dim am ei bod yn mynd i gymryd cryn dipyn o amser i gynyddu capasiti gofal sylfaenol mewn GIG sydd eisoes dan bwysau, ond hefyd am fod awdiolegwyr cymunedol sefydledig ar gael i ni, awdiolegwyr y mae cleifion yn eu hoffi ac y profwyd eu bod yn ddiogel, yn glinigol effeithiol, ac y canfuwyd eu bod yn darparu gwerth da am arian yn Iwerddon, Lloegr ac mewn mannau eraill, ac maent ar gael ar bron bob stryd fawr yng Nghymru. Rhaid inni gofio bod gennym lawer o gleifion dros 70 oed sy'n awyddus iawn i gael mynediad at wasanaethau. Ni allant aros am y broses hir o gael pob bwrdd iechyd i gyflawni cynlluniau peilot a recriwtio'n uniongyrchol i'r gwasanaeth, ac yna gorfod clirio'r rhestrau aros sy'n dal i dyfu, sy'n sefyllfa a brofais yn ddiweddar gan fy mod newydd gael fy symud oddi ar y rhestr cleifion allanol yr oeddwn arni am ei bod wedi tyfu'n rhy hir.
Yr hyn sy'n fwy hurt ynghylch dull o weithredu'r Llywodraeth hon yw'r ffaith eu bod eisoes yn defnyddio optometryddion preifat, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y GIG. Felly, mae'r Llywodraeth hon, heb unrhyw dystiolaeth ategol, yn trin gwasanaethau awdioleg yn wahanol ac yn gwrthod mynediad cyflym i gleifion yng Nghymru at y gwasanaeth hwn. Efallai nad yw'r Aelodau yma'n ymwybodol, ond yn yr archwiliad diweddaraf o wasanaethau awdioleg yng Nghymru, a gynhaliwyd, efallai y dylwn ychwanegu, cyn COVID-19, methodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru gydymffurfio â'r gofyniad i gysylltu â phob claf cymorth clyw bob tair blynedd i gynnig apwyntiad ailasesu. Methodd pob bwrdd iechyd y meini prawf hyn yn 2017 hefyd. Dim ond pump o naw gwasanaeth a gyrhaeddodd neu a ragorodd ar y targed cydymffurfio ar gyfer pob safon unigol. Felly, cyn COVID, roeddem eisoes yn gweld nad oedd cleifion yn cael y gwasanaethau awdioleg y maent yn eu haeddu, ac mae'r sefyllfa hon yn gwaethygu.
Mae nifer y bobl sydd â cholled clyw yn cynyddu. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y bydd tua 15.6 miliwn o bobl yn y DU â cholled clyw erbyn 2035—mae hynny'n un o bob pump o'r boblogaeth, o'i gymharu ag un o bob chwech o bobl ar hyn o bryd. Erbyn 2030, bydd colled clyw ymhlith oedolion yn un o'r 10 clefyd uchaf yn y DU, yn uwch na chataractau a diabetes, fel y'i mesurir yn ôl blynyddoedd bywyd a addaswyd o achos anabledd. Yn rhwystredig, mae agwedd y Llywodraeth hon at broblemau gyda gwasanaethau awdioleg yn rhyfedd ar y gorau ac yn achosi niwed bwriadol ar ei waethaf, yn enwedig am fod ateb parod ar gael ar ffurf awdiolegwyr cymunedol ar y stryd fawr. Mae GIG Cymru eisoes yn comisiynu optometreg gofal sylfaenol ac mae byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau cymunedol ar gyfer iechyd llygaid, felly pam y mae'r Llywodraeth hon yn trin awdioleg yn wahanol ac nad yw'n mabwysiadu'r un dull o weithredu? Rwy'n gobeithio bod hwn yn safbwynt y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw iddo. Diolch, Lywydd, a diolch i bawb am roi o'ch amser i wrando.