Canolfan Breswyl i Fenywod

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:40, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, a diolch i'r Gweinidog am ei holl waith mewn perthynas â'r ganolfan werthfawr hon i fenywod yn Abertawe. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon ei fod yn gynllun peilot pum mlynedd nad yw’n dechrau tan 2024 ar y cynharaf, ac y bydd ond yn gallu cefnogi 12 o fenywod fan bellaf yn ardal Abertawe. Fy mhryder i yw beth sy’n digwydd i'r menywod eraill yng Nghymru. Ni fydd y peilot yn dod i ben tan ddiwedd y degawd, bydd cyfnod o ddadansoddi wedyn, ac yn y cyfamser, bydd menywod Cymru yn cael eu hanfon ymhell oddi wrth eu teuluoedd i garchardai yn Lloegr. Beth allwch chi ei wneud, Weinidog, ar y cyd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i gefnogi’r menywod hyn o Gymru?