1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2022.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe? OQ58122
Rwyf wedi ymgysylltu’n rheolaidd â Gweinidogion cyfiawnder Llywodraeth y DU, sy’n arwain ar y rhaglen waith bwysig hon, a byddaf yn parhau â’r dull cydweithredol hwn wrth i'r gwaith o ddatblygu'r ganolfan breswyl i fenywod fynd rhagddo.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, fe sonioch am y ganolfan breswyl i fenywod honno yn Abertawe, sydd i fod i agor, gobeithio, yn 2024. Ac er fy mod yn croesawu'r fenter newydd arloesol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu lefel isel ymhlith menywod, a'r cydweithredu rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU wrth ddod â'r ganolfan i Abertawe, mae angen inni sicrhau bod hyn yn digwydd ar y cyd â'r gymuned leol yn Abertawe. Er bod pob un ohonom yn dymuno gweld yr unigolion dan sylw yn cael eu hadsefydlu, ceir rhywfaint o bryder ymhlith y trigolion y byddant yn cael eu cartrefu yn yr ardal hon gyda’r lleoliadau penodol hyn. Rwy'n falch o weld y bydd y ganolfan yn mynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol a chymhleth sydd ynghlwm wrth droseddu lefel isel, ond mae angen inni sicrhau bod y gymuned yn Abertawe yn gwbl gefnogol i'r syniad. Rydym ni fel Aelodau’n ymwybodol o bwysigrwydd y fenter nid yn unig i fenywod yn fy rhanbarth i, ond ledled Cymru, a’r hyn sydd ei angen arnom er mwyn i’r fenter hon lwyddo, y gyntaf o’i math, os mynnwch, yw cefnogaeth y gymuned leol. Heb y gefnogaeth gymunedol honno, ni fyddwn yn gweld manteision llawn y prosiect; ni fydd y ganolfan yn llwyddo heb y gefnogaeth honno. Felly, o ystyried ei bod yn fenter mor newydd, rwy'n ofni nad gwneud mwy o’r un peth o ran ymgysylltu statudol yw’r ffordd o wneud hyn, o bosibl—mae arnom angen mwy o ymgysylltu gan randdeiliaid ar bob lefel, i dynnu sylw at bwysigrwydd a manteision cynllun o'r fath. Felly, a gaf fi ofyn i’r Gweinidog ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid eraill i dynnu sylw at fanteision y cynllun ac i sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod yn ganolog i'r prosiect, ac i ymrwymo i fynd y tu hwnt i’r gofynion ymgysylltu statudol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei wireddu?
Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, ac yn wir, am ei gefnogaeth i'r ganolfan breswyl arloesol hon i fenywod. Ac rwy’n siŵr y bydd yn ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod Cymru’n arwain y ffordd. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i bartneriaeth. Er mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hyn, rwyf wedi gwthio’n galed iawn i sicrhau bod canolfan breswyl i fenywod yn cael ei threialu yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fy rhagflaenydd, Alun Davies, a ddechreuodd y trafodaethau hyn. Mae'n elfen allweddol o'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder menywod, a gallaf roi sicrwydd i chi y cafwyd ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, comisiynwyr heddlu a throseddu Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn ganolog i’r gwaith hwn.
Ond unwaith eto, hoffwn achub ar y cyfle i ddatgan beth fydd y ganolfan breswyl i fenywod hon: dyma’r gyntaf yng Nghymru, ac mae’n beilot ar gyfer y DU. Bydd yn darparu llety i hyd at 12 o fenywod, gydag ystod eang o anghenion, fel y gallant aros yn agos at eu cartrefi a’u cymunedau. Bydd yn cynnig gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu—er enghraifft, cymorth mewn perthynas â cham-drin domestig ac iechyd meddwl. Ac mae'n ganolfan breswyl i fenywod a fydd yn cefnogi menywod—menywod lleol—i gadw mewn cysylltiad â'u plant, eu teuluoedd, a chymunedau lleol, gan annog cyswllt ac ymweliadau fel y bo'n briodol. A bydd yn darparu canolfan gymunedol i fenywod fel opsiwn am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnig cymorth ychwanegol yr elfen breswyl, a hefyd, yn bwysig iawn, o ran cyfraniadau cadarnhaol i'r gymuned leol a chyda'r gymuned leol, wrth iddynt symud i lety sefydlog. Felly, o ran y cyfleoedd a fydd yn deillio o hyn, y buddsoddiad a fydd yn digwydd a’r gweithio mewn partneriaeth, credaf y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei groesawu yn y gymuned yn Abertawe.
Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, a diolch i'r Gweinidog am ei holl waith mewn perthynas â'r ganolfan werthfawr hon i fenywod yn Abertawe. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon ei fod yn gynllun peilot pum mlynedd nad yw’n dechrau tan 2024 ar y cynharaf, ac y bydd ond yn gallu cefnogi 12 o fenywod fan bellaf yn ardal Abertawe. Fy mhryder i yw beth sy’n digwydd i'r menywod eraill yng Nghymru. Ni fydd y peilot yn dod i ben tan ddiwedd y degawd, bydd cyfnod o ddadansoddi wedyn, ac yn y cyfamser, bydd menywod Cymru yn cael eu hanfon ymhell oddi wrth eu teuluoedd i garchardai yn Lloegr. Beth allwch chi ei wneud, Weinidog, ar y cyd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i gefnogi’r menywod hyn o Gymru?
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hwn yn gam mawr ymlaen, onid yw, y trawsnewidiad hwnnw. Ni all ddod yn rhy fuan yn fy marn i—mae 2024 yn teimlo ymhell i ffwrdd, ac ni allwn fod yn aros wedyn i weld sut y mae hyn yn gweithio. Mae'n cael ei gynllunio i sicrhau y bydd yn gweithio; bydd yn cynnig yr holl wasanaethau a ddisgrifiais. Ac mae angen inni ddechrau rhoi pwysau—diolch am y cwestiwn ac am wneud y pwynt—ar unwaith i ymestyn y ddarpariaeth hon, gan y credaf mai'r hyn a fydd mor bwysig am hyn yw ei fod yn fuddsoddiad yn y menywod a'u teuluoedd, ac yn y gymuned, gan y bydd yn gwella'u sgiliau, eu hiechyd a'u perthynas ag eraill, a byddant yn edrych ymlaen at eu rhagolygon wrth iddynt adael y ganolfan breswyl i fenywod. Ac mae'n sicr yn rhan o ddull y rhaglen fraenaru i fenywod.
Ond byddwn hefyd yn dweud bod hyn yn rhywbeth, o ran y ffordd anghyfiawn y caiff menywod eu trin yn y system cyfiawnder troseddol, lle—. Siaradais mewn uwchgynhadledd rithwir ddiwedd mis Mawrth, lle y clywais fod o leiaf 57 y cant o fenywod a ddaw i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n bwrw dedfryd yn y gymuned wedi cael eu treisio neu wedi dioddef cam-drin domestig gan bartner mewn perthynas agos. Rwyf wedi cyfarfod â menywod mewn carchardai y tu allan i Gymru sydd yno, yn y bôn, oherwydd tlodi a chyni a cham-drin domestig. Ac yn y digwyddiad hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi clywed gan fenyw ifanc—a byddaf yn cyfarfod â hi, Ellie Anderson—a rannodd ei phrofiad o fod yn blentyn i fenyw a fu yn y carchar sawl gwaith. Magwyd Ellie yng Nghymru, ac roedd ei mam yn y carchar y tu allan i Gymru, a byddaf yn cyfarfod â hi cyn bo hir.
Felly, gyda’n gilydd, a chyda’ch cefnogaeth chi, byddwn yn pwyso i ehangu'r ddarpariaeth hon, nid yn unig ymhen pum mlynedd, ond cyn gynted â phosibl.