1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2022.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch hyrwyddo hawliau pobl anabl? OQ58115
Rwy’n parhau i drafod ein hymrwymiad ar y cyd i gryfhau hawliau pobl anabl gyda fy nghyd-Weinidogion. Ategir ein gwaith gan y model cymdeithasol o anabledd, a sefydlwyd y tasglu hawliau pobl anabl i ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo' er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddychwelyd at bwnc a godais yn ddiweddar mewn datganiad busnes yma yn y Siambr. Mae gormod o bobl anabl yn dal i wynebu anawsterau a gwahaniaethau yn y gweithle. Yn ôl yr ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Ebrill y llynedd, mae 52.3 y cant o bobl anabl mewn gwaith; mae hyn yn cymharu ag 82 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Yng Nghymru, mae’r bwlch cyflog anabledd yn 18 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, gyda menywod anabl yn cael eu heffeithio waethaf, gan ennill, ar gyfartaledd, 36 y cant yn llai na’u cymheiriaid nad ydynt yn anabl. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y gall cyflogi gweithwyr anabl ddarparu manteision sylweddol i fusnesau yng Nghymru? Pa drafodaethau a gawsoch chi yn bersonol gyda’ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth ynglŷn â sut i annog cyflogwyr i beidio â diystyru gweithwyr medrus am fod ganddynt anabledd?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Natasha Asghar, gan mai dyma nod allweddol ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl—mae gennym rwydwaith newydd sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o gyfleoedd gweithio hyblyg. Maent yn bobl anabl sy'n arwain y ffordd; maent wedi sefydlu rhwydwaith cryf o gyflogwyr, ond maent hefyd yn dangos y gellir newid agwedd cyflogwyr fel eu bod yn cydnabod manteision cyflogi pobl anabl. Ond hoffwn ddweud hefyd fy mod yn croesawu’r ffaith eich bod yn cydnabod y bwlch cyflog anabledd, ac felly, mae hynny'n un o’n cerrig milltir cenedlaethol. Rydym yn edrych ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y bwlch cyflog hiliol a'r bwlch cyflog anabledd, ac mae honno'n garreg filltir genedlaethol yr ydym wedi cytuno arni ac y mae'r Senedd wedi cytuno arni. Ond hefyd, mae gennym bellach uned tystiolaeth cydraddoldeb anabledd fel rhan o'n huned tystiolaeth cydraddoldeb i edrych ar y materion hyn. Felly, byddwn yn edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, ac yn wir, mae hyn yn hollbwysig i'n contract economaidd gyda chyflogwyr.
Weinidog, rydych yn haeddu clod aruthrol am eich gwaith ar gyflwyno hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn nhymor blaenorol y Senedd; maent yn amhrisiadwy i filoedd lawer o bobl yma yng Nghymru. Beth yw eich asesiad o hawliau pobl anabl a llesiant pobl anabl ers 2010, o ganlyniad i fesurau Llywodraeth y DU? Yma yng Nghymru, pa fath o ddefnydd y credwch y gallwn ei wneud o bartneriaeth gymdeithasol, ac fel rydych wedi'i grybwyll, y contract economaidd, i ddarparu cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl sy’n wynebu rhwystrau sy’n anablu?
Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac a gaf fi ddiolch ichi am y gefnogaeth a roesoch yn eich rôl flaenorol, nid yn unig i'r rhwydwaith o lysgenhadon cyflogaeth i'r anabl, gyda chefnogaeth Gweinidog yr Economi, ond hefyd am ddatblygu'r contract economaidd hollbwysig hwnnw, sydd, mewn gwirionedd, o ran y pedair colofn, yn cynnwys gwaith teg? Mae'n cynnwys y gofyniad i fusnes ddangos yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau gweithle cyfartal ac amrywiol. Felly, credaf ein bod ar y blaen yng Nghymru ar fabwysiadu'r mentrau polisi hyn. Ond byddwn hefyd yn dweud ein bod wedi cyhoeddi 'Gweithio’n ddoethach: strategaeth gweithio o bell i Gymru' yn gynharach eleni. Mae hyn yn ymwneud â gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, gan nodi'r ffyrdd y gallwn annog gweithio o bell gyda'r sector cyhoeddus yn chwarae rôl arweiniol. Ond mae hyn yn rhoi mwy o gyfle a hefyd mwy o hyblygrwydd i rai pobl anabl—a menywod hefyd, a rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu—ond mae angen deialog dda a dibynadwy rhwng cyflogwr a gweithiwr. Felly, byddwn yn dweud bod partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol i hynny.