Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch i chi am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rhaid imi ddweud ei bod yn bleser eich gweld chi hefyd yn y salíwt ynnau yma ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf, ac mae eich cefnogaeth i gyn-filwyr, rwy’n gwybod, yn cael ei werthfawrogi. Ond yn ddiweddar, cefais y pleser hefyd o gyfarfod â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe wnaethant dynnu fy sylw at y ffaith eu bod eisiau ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai i bum mlynedd ar gyfer y rhai sydd wedi gadael gwasanaeth milwrol, ac fel sy'n digwydd yn Lloegr, sicrhau y gall gwŷr a gwragedd a phartneriaid aelodau o’r lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi ysgaru neu wahanu gael cymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y lluoedd arfog. Felly, yng ngoleuni hyn, Ddirprwy Weinidog, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai a pha drafodaethau a gawsoch gyda chynrychiolwyr cyn-filwyr i sicrhau bod eu pryderon pwysig yn cael sylw. Diolch.