1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2022.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Ngogledd Cymru? OQ58143
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth i gyn-filwyr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ariannu swyddogion cysylltu â’r lluoedd arfog, buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a chefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ar 18 Mehefin.
Diolch i chi am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rhaid imi ddweud ei bod yn bleser eich gweld chi hefyd yn y salíwt ynnau yma ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf, ac mae eich cefnogaeth i gyn-filwyr, rwy’n gwybod, yn cael ei werthfawrogi. Ond yn ddiweddar, cefais y pleser hefyd o gyfarfod â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe wnaethant dynnu fy sylw at y ffaith eu bod eisiau ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai i bum mlynedd ar gyfer y rhai sydd wedi gadael gwasanaeth milwrol, ac fel sy'n digwydd yn Lloegr, sicrhau y gall gwŷr a gwragedd a phartneriaid aelodau o’r lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi ysgaru neu wahanu gael cymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y lluoedd arfog. Felly, yng ngoleuni hyn, Ddirprwy Weinidog, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai a pha drafodaethau a gawsoch gyda chynrychiolwyr cyn-filwyr i sicrhau bod eu pryderon pwysig yn cael sylw. Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn ystyriol iawn. Gwn fod yr Aelod yn angerddol iawn ynglŷn â'r maes hwn a’i fod wedi ymrwymo i’w gefnogi yn ei rôl fel Aelod dros Ogledd Cymru, ac roedd yn hyfryd taro arnoch wrth imi ddod oddi ar HMS Severn. Cefais y fraint o fynd ar daith o'i chwmpas ar ôl y salíwt ynnau brenhinol ddydd Iau, er na fyddwn yn argymell i’r Aelodau ddod oddi ar long yn gwisgo sodlau uchel. [Chwerthin.] Roedd yn orchest ynddi’i hun.
I fod o ddifrif, ar y pwynt a wnaethoch—mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiwygio’r gyfraith dai a gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Ac felly, bydd y diwygiad deddfwriaethol hwn yn ystyried pob angen blaenoriaethol er mwyn cyflawni'r newid trawsnewidiol i ailgartrefu cyflym, sy'n galw, yn amlwg, fel y gwyddoch, am atebion hirdymor i bawb sydd ag angen tai difrifol, ac nid yn unig y rhai yr ystyrir eu bod mewn categori angen blaenoriaethol. Felly, bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o anghenion ac ymgysylltiad ag amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys cymuned y lluoedd arfog yn ei hystyr ehangaf, oherwydd rydych yn codi'r pwynt ei fod yn ymwneud â mwy na'r bobl sydd wedi gwasanaethu eu hunain—mae'n ymwneud â’r rhwydweithiau teulu o'u cwmpas hefyd sydd wedi bod yn allweddol yn ystod y cyfnod pan oeddent yn gwasanaethu a phan oeddent yn gadael y lluoedd arfog hefyd. Felly, yn rhan o'r diwygio hwn, gallaf ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwyntiau a godwyd gennych chi a’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhan o’n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, felly byddaf yn ymrwymo i barhau i ymgysylltu â hwy yn rhan o hynny, a hefyd y rôl y mae swyddogion cysylltu â’r lluoedd arfog yn parhau i’w chwarae yn bwydo’r wybodaeth honno ar lawr gwlad i gefnogi cyn-filwyr mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru a ledled y wlad hefyd.