Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch am y cwestiwn. Gwnaethom nodi egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig yn ein cyhoeddiad diweddar, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Byddwn yn defnyddio hwn i gydgynhyrchu gweledigaeth o sut y gellir darparu cyfiawnder yn well, drwy sgyrsiau â'r rhai sydd ag arbenigedd yn y system gyfiawnder. Bydd ystyried adnoddau yn elfen bwysig o hynny.