Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Mehefin 2022.
Er gwaethaf trydariad diweddar Andrew R.T. Davies yn datgan na fydd y Ceidwadwyr Cymreig byth yn cefnogi datganoli cyfiawnder, dwi, a dwi'n gwybod chi, hefyd, Cwnsler Cyffredinol, yn cytuno gyda geiriau'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd—mae mater o bryd yn hytrach nag os yw datganoli cyfiawnder i'r lle hwn. A chyda pethau'n symud yn sydyn iawn yn San Steffan, fe all datganoli cyfiawnder ddigwydd yn gynt nag rŷn ni'n ei feddwl. I wneud hynny, bydd angen trosglwyddiad teg o arian, er, yn bersonol, dwi'n credu y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn arbed arian i drethdalwyr. Ond ydy'r Llywodraeth yn gwybod—ac os nad ydyn nhw'n gwybod, pryd gwnawn nhw wybod—faint o arian sydd angen arnyn nhw o Drysorlys y Deyrnas Unedig?