Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu y gallai neb yn y Siambr hon wadu'n rhesymol fod protestio neu fudiadau protest wedi newid Cymru a'r Deyrnas Unedig er gwell. Rwy'n gwybod bod gennych chi eich hun, Gwnsler Cyffredinol, hanes o herio'r pwerus pan fydd angen gwneud hynny, gan gynnwys eich gwaith ysbrydoledig gydag eraill i herio erchyllterau apartheid yn Ne Affrica. Dylem i gyd boeni am gymhellion unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio herio'r hawl i brotestio. Gwnsler Cyffredinol, i ba raddau y mae'r Bil hwn, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn cyfyngu ar hawl pobl i brotestio, a beth yw eich asesiad o'i effaith ar ein democratiaeth?