Y Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:35, 8 Mehefin 2022

Diolch yn fawr, Llywydd. Ac rôn i'n falch iawn, yn sicr, o glywed i ddechrau fod Alun Davies a Sam Kurtz wedi cynrychioli'r Senedd hon gydag anrhydedd. Ond rŷn ni hefyd yn falch iawn o ddarllen eu llythyr nhw, wedi iddynt ein cynrychioli ni. Mae'n dda ein bod ni wedi cael ein cynrychioli, yn enwedig gan ddau mor barchus â'r ddau yma, ond, yn sicr, mae angen mwy na jest seen and not heard, ac mae'n rhaid ei bod hi'n anodd iawn i Alun Davies to be seen and not heard. Felly, dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl bod cynrychiolwyr o'r lle yma yn methu cyfrannu at ddadleuon yn ymwneud â meysydd datganoledig. Felly, ydy'r Comisiwn yma wedi cyflwyno'r safbwynt yma i'r cynulliad, a phryd bydd y rheol yma yn newid?