Y Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:36, 8 Mehefin 2022

Fel soniais i yn yr ateb gwreiddiol, hawliau arsylwi sydd gan gynrychiolwyr o'r Senedd ar hyn o bryd, ac mae gan hynny ei gyfyngiadau, fel mae'r Aelod wedi'i grybwyll. Fe fyddwn ni fel Comisiwn, a swyddogion y Comisiwn, yn barod iawn i weithio gyda'r Aelodau sy'n ein cynrychioli ni, a'r pwyllgorau rôn i'n sôn amdano, yn hyrwyddo unwaith eto hawliau ychwanegol i'n cynrychiolwyr ni fel Senedd, fel y gallwn ni chwarae rhan gwbl gyflawn yng ngwaith y cynulliad penodol yma.