Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Llywydd am yr ateb hwnnw. Fel rydych chi'n gwybod, mae'r wlad yn wynebu cyfnod anodd iawn, wrth i gostau byw wasgu ar bobl, gan wthio pobl mewn i dlodi, ac, yn wir, tlodi enbyd. Bydd yna bwysau cynyddol ar staff i ymateb i nifer fawr o achosion, rhai yn achosion dirdynnol, gan ddod â phwysau emosiynol yn ei sgil. Ydy'r Comisiwn wedi paratoi am y senario yma, ac oes modd gwneud yn glir i bob un o'r staff ynghylch pa gymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â'r heriau emosiynol, sydd yn debygol o gynyddu?