Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch am y cwestiwn amserol iawn yna. Ac mae hyn yn agwedd newydd o waith y Comisiwn, wrth baratoi cyfeiriadau a chanllawiau ariannol, a fydd yn nodwedd o'r cymorth sydd ar gael gan y Comisiwn. Ac mae'r cymorth ar gyfer blaendaliadau cyflog a chymorth iechyd galwedigaethol ychwanegol bellach ar waith, er mwyn sicrhau bod y cymorth sy'n briodol i'r cyfnod yma dŷn ni'n byw drwyddo ar gael i'n staff ni oll—yn eich etholaethau chi, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio yma yn y Senedd.