Canolfan Ganser Rutherford

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:56, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Adleisiaf rai o’r cwestiynau gan Jayne Bryant a Natasha Asghar, ac roeddwn innau'n bryderus iawn wrth glywed y newyddion am hyn y bore yma. Hoffwn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Senedd faint o ddiwydrwydd dyladwy a wnaed cyn i'r swm sylweddol o £10 miliwn gael ei fuddsoddi. Onid oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o’r hyn a ddisgrifiwyd mewn datganiad gan Schroder UK Public Private Trust fel ‘strategaeth ehangu ddiffygiol’ gan y cwmni o’r flwyddyn y gwnaed y buddsoddiad? Ac a ydych yn credu bod unrhyw obaith y gellir adfer rhywfaint o'r arian cyhoeddus a'i ailddefnyddio ym maes triniaeth canser yma yng Nghymru?