Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr. Wel, gwnaed y buddsoddiad yn Rutherford gan reolwr cronfa a oedd yn gweithredu o dan gontract i Fanc Datblygu Cymru, ac yn amlwg, mae hynny hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Felly, o ran diwydrwydd dyladwy, eu cyfrifoldeb hwy fyddai hynny. Mae’r gronfa'n gronfa bortffolio, ac wrth gwrs, mae risgiau uchel ynghlwm wrth rai buddsoddiadau, ac wrth gwrs, ni allwn ddisgwyl i bob un ohonynt lwyddo. Cyrhaeddodd y gronfa ei charreg filltir gyntaf yn 2019, ac fe ddarparodd bron i £20 miliwn i Fanc Datblygu Cymru.