6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:32, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd yr adroddiad yn dadlau, oherwydd toriad yn nifer yr Aelodau yn San Steffan, y gallem gynyddu ein niferoedd yma heb gael effaith negyddol ar bwrs y wlad. Aeth yr Athro Russell Deacon yn ei flaen a dywedodd, fel un o awduron yr adroddiad, fod bonws posibl yn hyn yn sgil Brexit—y creadur gwirioneddol brin hwnnw nad ydych wedi gallu dod o hyd iddo eto—bonws yn sgil Brexit, y gallai colli Aelodau o Senedd Ewrop ddarparu pont gyllidol i sicrhau mwy o Aelodau o’r Senedd. Mae'n siomedig felly nad yw'r Ceidwadwyr, y mae'n rhaid eu bod yn clywed 'bonws Brexit' a 'chodi'r gwastad' yn eu cwsg bellach, yn cefnogi bonws Brexit posibl yma a fyddai wir yn gwneud gwahaniaeth. Pe baem yn disgrifio buddion ariannol craffu mewn sylltau a ffyrlingau, efallai y byddech yn deall.