6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:33, 8 Mehefin 2022

Os ydyn ni am drafod yn fanylach y gost wleidyddol, efallai y gall y Ceidwadwyr gael gair gyda'u ffrind nhw y Prif Weinidog—wel, y Prif Weinidog am nawr beth bynnag—Boris Johnson. Fel clywon ni, dros 80 o apwyntiadau i Dŷ'r Arglwyddi, a rhai ohonynt yn erbyn cyngor y comisiwn penodiadau—dyna beth sydd gyda ni yn San Steffan.

Rŷn ni i gyd yn gwybod bod rôl craffu'r ddeddfwrfa yn hynod bwysig i ddemocratiaeth iach. Dwi'n hoff iawn o eiriau doeth Sir Paul Silk: 

'Rhaid wrth graffu da i gael deddfwriaeth dda, ac mae deddfwriaeth dda yn talu amdani ei hun.'

Mae angen Senedd gyda'r adnoddau priodol i graffu—i graffu ar dros £17 biliwn o wariant bob blwyddyn, i graffu ar ddeddfwriaeth sylweddol, a chynnal ymchwiliadau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.