6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd — Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:55, 8 Mehefin 2022

Dwi'n falch iawn i gyfrannu i’r ddadl hollbwysig hon fel aelod o’r pwyllgor diben arbennig fu’n gweithio ar yr adroddiad sydd yn destun ein trafodaeth ni heddiw yma. Gwaith y pwyllgor oedd edrych ar gasgliadau adroddiadau blaenorol ar ddiwygio seneddol ac yna gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar gyfer deddfwriaeth gan y Llywodraeth i ddiwygio’r Senedd. Yn gefnlen i hyn oedd y cytundeb cydweithio rhwng fy mhlaid i a Llywodraeth Cymru, sydd wedi cytuno i greu Senedd sydd yn fwy cydnaws â’n democratiaeth fodern.

Nos Sul, ces i'r fraint anhygoel o weld tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Roedd y chwaraewyr a’r dorf fel un—yn hyderus, yn gyffrous, yn edrych ymlaen yn eiddgar at beth ddaw i’r dyfodol. Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod pwysig yn hanes ein cenedl ni. Dyma gyfle i’r Senedd roi sêl bendith i argymhellion y pwyllgor a chymryd y cam cyntaf ar y daith i greu Senedd fwy a Senedd gydradd. Byddai hynny yn gam cyffrous ymlaen o safbwynt twf ein democratiaeth, o safbwynt creu cenedl sydd â hyder yn ei dyfodol ei hun, cenedl sy’n mynd yn fwy a mwy awyddus i gydio yn yr awenau er lles pawb sydd yn byw yma.

Mae’n Senedd ni wedi cymryd camau breision ymlaen dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda’r pwerau wedi cynyddu’n sylweddol o ran creu deddfwriaeth a gosod trethi. Y cam synhwyrol nesaf ydy i gynyddu maint y Senedd a’n symud ni’n agosach at faint Seneddau eraill tebyg ar draws y byd. Does dim dwywaith yn fy meddwl i fod y cyfnod COVID wedi argyhoeddi pobl Cymru o werth cael Senedd gref sy’n gallu torri ei chwys ei hun o ran polisïau pwysig, a chafwyd cefnogaeth i ddull gofalus Llywodraeth etholedig pobl Cymru o ddelio efo’r argyfwng iechyd a sylweddoliad bod ein Senedd ni yn hollbwysig. Roedd yna fwy a mwy o etholwyr yn troi atom ni fel Aelodau o’r Senedd am gymorth a gwybodaeth yn ystod y pandemig, wrth i fwy a mwy o bobl sylweddoli—rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf—fod gan Senedd Cymru bwerau neilltuol a’n bod ni yn eu defnyddio mewn ffordd wahanol a gwell na’r Senedd yn San Steffan. Mae hynny yn creu cefnlen newydd ar gyfer y diwygio sydd ar droed, a bydd pobl yn croesawu’r symudiad tuag at Senedd fwy, Senedd gref, gyda digon o seneddwyr i graffu a herio a dal Llywodraeth ein gwlad i gyfrif ar y materion sydd o bwys ym mywydau ein dinasyddion ni.

Mi wnes i sôn fod heddiw yn ddiwrnod cyffrous i’n cenedl ni. Dwi yn hynod, hynod o gyffrous ynglŷn â’r argymhelliad ynglŷn â chreu cwotâu rhywedd mandadol fel rhan integredig o’n system etholiadol ni. Mae creu cydraddoldeb rhywedd wedi bod yn un o fy mlaenoriaethau gwleidyddol i ar draws y blynyddoedd, a dyma un o’r rhesymau pam wnes i benderfynu ceisio bod yn Aelod o’r Senedd chwe blynedd yn ôl, oherwydd fy mod yn grediniol bod angen llawer mwy o ferched mewn llefydd dylanwadol mewn bywyd cyhoeddus. A dwi hefyd yn grediniol na fedrwn ni ddim cyrraedd cydraddoldeb rhywedd ar y cyflymder sydd ei angen heb ymyrraeth uniongyrchol a heb fecanweithiau penodol i sicrhau cyfartaledd.

Ers rhai blynyddoedd bellach, dwi wedi bod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol menywod y Senedd. Dros y misoedd diwethaf, mae'r grŵp wedi bod yn gwneud yr achos dros gwotâu rhywedd. Rydym wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd, ac mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir fod creu cwotâu yn ffordd effeithiol o gynyddu cynrychiolaeth menywod yn gyflym. Dwi am dalu teyrnged i’r holl fudiadau sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd ni ac wedi ymgyrchu'n frwd dros gwotâu. Bellach mae yna gefnogaeth yma yn y Senedd gan y tair plaid i'r cysyniad o gwotâu rhywedd, a dwi'n hynod, hynod o falch efo hynny. [Torri ar draws.] Does yna ddim amser ar ôl, rŵan.

Wrth basio’r cynnig yma heddiw, mae'r pwyllgor yn trosglwyddo'r camau nesaf ar y daith i'r Llywodraeth. Mae gwaith y pwyllgor ar ben, ac mae’n diolch ni'n fawr i’r tîm fu'n gweithio mor ddiwyd efo ni. Rŵan, mae angen gwaith dwys a chyflym er mwyn dod â’r cyfan i fwcl mewn pryd ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd. Bydd yna gyfle i wyntyllu ac i fireinio wrth i'r ddeddfwriaeth fydd ar ei thaith. Heddiw, beth am inni ymfalchïo ein bod ni'n cychwyn siwrnai hanesyddol yn ystod oes y Senedd hon, i greu Senedd gref a chydradd. Mae'n rhaid inni gydio'n eiddgar yn y cyfle arbennig hwn, peidio colli’r cyfle a chreu’r newid pwysig, a hynny er mwyn pobl Cymru.